Datganiad gan Brif Weinidog Cymru yn dilyn cyfarfod COBR

Statement from the First Minister of Wales following COBR

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:

“Prynhawn yma, roeddwn yn falch o gael y cyfle i fod mewn cyfarfod COBR i drafod yr amodau presennol a'r effaith mae'r tanau gwyllt yn ei chael ar sawl rhan o Gymru ac ar draws y DU. Gofynnais am sicrwydd gan gydweithwyr Llywodraeth y DU y bydd trefniadau cydgymorth Cadernid Cenedlaethol yn parhau i roi blaenoriaeth i'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan danau gwyllt, yn enwedig os bydd yr amodau'n gwaethygu dros y 48 awr nesaf.

“Cadarnheais hefyd y byddaf yn cynnull uwchgynhadledd amlasiantaeth yng Nghymru i gryfhau'r gwaith o atal tanau gwyllt a gwella ein cydnerthedd, a byddaf yn rhannu'r canlyniadau gyda phartneriaid ledled y DU. Mae'n hanfodol bod Cymru'n parhau i chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynllunio cydnerthedd ar draws y DU wrth i ni ddysgu gwersi o'r sefyllfa hon, gan gynnwys ystyried galluoedd arbenigol fel hofrenyddion a chymorth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Awyrlu Brenhinol lle bo hynny'n briodol.

“Yn gynharach heddiw, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, â Phrif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Fin Monahan, a throsglwyddodd ei diolch i'r diffoddwyr tân a'r staff cymorth sydd wedi bod yn gweithio mor galed i daclo'r digwyddiad mawr hwn. Hoffwn innau hefyd ddiolch i'n gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a phawb arall sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw cymunedau'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn o dywydd eithafol.

Mae'r amodau hyn yn golygu bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae i gadw'n ddiogel. Byddwn yn annog pawb i barhau i ddilyn unrhyw gyngor gan y gwasanaeth tân a'r awdurdodau lleol, ac yn arbennig i osgoi unrhyw weithgarwch a allai achosi rhagor o danau.”