Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog – Rhybudd Coch ar gyfer Storm Darragh
Statement from the Deputy First Minister – Red Warning for Storm Darragh
Mae Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies yn rhybuddio y gallai effeithiau Storm Darragh fod yn arwyddocaol iawn ac yn annog pobl i fod yn neilltuol o ofalus y penwythnos hwn.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch prin am wyntoedd cryf iawn fydd yn effeithio Gogledd, Gorllewin a De Cymru rhwng 3yb ac 11yb ddydd Sadwrn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion Ambr am lifogydd mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys y rheini yr effeithiodd Storm Bert arnyn nhw.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, "Mae rhybuddion coch yn cael eu cyhoeddi pan fydd bygythiad posib i fywyd, ac felly mae'n hanfodol bod pobl yng Nghymru yn gwrando ar y rhybuddion ac yn cymryd gofal mawr iawn os ydyn nhw'n teithio ddydd Sadwrn.
"Mae awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi eu trefniadau parodrwydd ar waith, yn barod ar gyfer Storm Darragh. Rwy'n annog pawb i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod pa lefel o rybudd sydd ar waith yn eu hardal ac i ddilyn yr holl gyngor swyddogol.
"Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n ofalus ac yn rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen i'r asiantaethau gyda'u hymateb".
DIWEDD