Sioned Williams cropped

Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog: Ymweliad â'r Prif Weinidog

Statement from the Deputy First Minister: Visit with the Prime Minister

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams: "Rwy'n falch o gael y cyfle i gwrdd â Phrif Weinidog y DU heddiw. Mae'n enghraifft gadarnhaol o lywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd i wella bywydau pobl. Mae cydweithredu ar strategaeth ynni a diwydiant yn hanfodol os yw Cymru am fanteisio ar gyfleoedd y trawsnewidiad gwyrdd a chreu swyddi â chyflogau da ar gyfer y dyfodol.

"Gyda'r cap ar brisiau ynni i godi 4% arall cyn y gaeaf, mae aelwydydd yn dod o dan bwysau o'r newydd. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff ynni cymdeithasol i gefnogi'r rhai sy'n wynebu tlodi tanwydd ac sy'n cael trafferth gyda biliau ynni uchel.

"Mae aelwydydd yng Nghymru yn wynebu rhai o'r taliadau sefydlog uchaf yn y DU ar gyfer ynni, gan ychwanegu at y baich ar deuluoedd sydd eisoes dan bwysau. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r annhegwch hirsefydlog hwn. Rhaid ystyried hefyd gefnogi'r nifer o aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru sy'n dibynnu ar olew gwresogi costus oherwydd nad ydynt wedi'u cysylltu â grid nwy y prif gyflenwad.

"Mae Cymru yn genedl sy'n gyfoethog o ran ynni. Dylai pobl weld hynny yn cael ei adlewyrchu mewn swyddi da, cymunedau cryfach a biliau is."

DIWEDD