Newyddion

Canfuwyd 18 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Sioned Williams cropped

Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymateb i ffigurau amddifadedd: Annog Prif Weinidog y DU i weithredu ar daliadau plant

  • Mae dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod tua dau o bob pump o blant yng Nghymru yn byw mewn amddifadedd incwm yn 2024.
  • Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth newydd Cymru, a gwelwyd cynnydd cynnar ar ofal plant a ariennir, cynllun peilot Cynnal, a Strategaeth Tlodi Plant newydd. 
  • Mae angen sicrwydd gan Lywodraeth y DU ar gynllun peilot Cynnal.
Claim What's Yours image cropped

Gallai pobl Cymru hawlio mwy o arian i helpu gyda chostau byw

  • Gallai miloedd o bobl ledled Cymru fod yn colli allan ar arian y mae ganddyn nhw'r hawl iddo, wrth i filiau ynni gyrraedd eu lefel uchaf ers tair blynedd y gaeaf hwn.
  • Mae'r ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi yn cysylltu pobl â chyngor cyfrinachol rhad ac am ddim drwy Advicelink Cymru - sy'n rhan o becyn cymorth costau byw Llywodraeth Cymru.
  • Y llynedd, fe wnaeth Advicelink Cymru, a darparwyr cyngor eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru, helpu 79,000 o bobl ledled Cymru gyda materion lles cymdeithasol.
Down to Zero 1

Pobl sy'n wynebu caledi yng Nghymru i gael cymorth bwyd a thlodi brys

  • Bron i £5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i fynd i'r afael â thlodi
  • Bydd cyllid yn cefnogi cymorth bwyd brys ac atal tlodi hirdymor
  • Arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ardaloedd gwledig sy'n wynebu heriau penodol
Sioned Williams cropped

Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog: Ymweliad â'r Prif Weinidog

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol.

James Minas-2

Hyfforddi dynion i helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru

  • Mae ugain o ddynion ledled Cymru wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol i helpu i hyrwyddo parch a chynnal perthynas iach.
  • Mae'r rhaglen yn rhoi'r gallu i dynion sy'n gweithio gyda phobl ifanc i herio ymddygiadau niweidiol a thrafod gwrywdod cadarnhaol.
  • Mae'r cerddor o Gaerdydd, James Minas, wedi lansio Bros B4 Lows, grŵp cymorth i ddynion yn y gymuned gerddoriaeth, ar ôl cael ei ysbrydoli gan yr hyfforddiant.
WML 160626 Sioned Williams Caerphilly 27

Cymru'n symud yn nes at gynnig gofal i bob plentyn: pob awdurdod lleol ar y trywydd iawn i gwblhau cam cyntaf yr ehangu

  • Pob awdurdod lleol yng Nghymru ar y trywydd iawn i gynnig gofal a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd mis Mawrth 2027.
  • Carreg filltir enfawr wedi'i chyrraedd ar y daith tuag at gynnig gofal i bob plentyn.
  • Mwy o deuluoedd i elwa wrth i'r gwaith o ehangu gofal plant gyflymu ledled y wlad.
Sioned Williams

Galwad i weithio mewn partneriaeth ar gyfiawnder yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i wella canlyniadau ar draws y system gyfiawnder yng Nghymru – dyna oedd neges y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams heddiw.

 Save the Children5

Taliad plant wythnosol o £10 yn symud gam yn nes

  • Grŵp arbenigol yn cyfarfod am y tro cyntaf i gynllunio peilot sy'n darparu £10 yr wythnos i hyd at 15,000 o blant mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.
  • Bydd aelodau'n helpu i ddylunio a phrofi'r cynllun i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio'n dda i deuluoedd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant.
  • Mae sefydlu'r grŵp arbenigol yn cyflawni ymrwymiad allweddol 100 diwrnod cyntaf.
Sioned Williams Gofal Plant Childcare1

Cymru’n agosáu at Gynnig Gofal Plant Cyffredinol

  • Y Dirprwy Brif Weinidog yn nodi’r llwybr a’r camau ar gyfer cynnig gofal plant a ariennir i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
  • Disgwyl i awdurdodau lleol wneud camau breision tuag at ymestyn y cynnig i bob plentyn dwy oed o ganlyniad i’r cyllid diweddar, gan osod sylfaen ar gyfer gofal plant sydd wir ar gael i bawb.
  • Ugain o awdurdodau lleol yn disgwyl cynnig darpariaeth i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd 2026-27. 
Sioned Williams cropped

Hwb o £5m i uwchraddio mannau cymunedol ledled Cymru

  • Hwb o £5m i uwchraddio a thrawsnewid mannau cymunedol ledled Cymru
  • Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i fwy o brosiectau dan arweinir y gymuned gael mynediad at gyllid
  • Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld â Llyfrgell Cymer Afan, sydd wedi'i hadnewyddu gyda chyllid o £181,300
Age Connects Morgannwg2

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fudd-daliadau symlach a thecach i bobl hŷn

  • Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar bobl hŷn i hawlio'r cymorth ariannol sy'n ddyledus iddynt.
  • Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog ag Age Connects Morgannwg i weld cyngor lles ar waith.
  • Gweithio tuag at system les symlach a thecach i Gymru
DFM DEC

Llywodraeth Cymru yn rhoi £50,000 i Apêl Daeargryn Venezuela y DEC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o £50,000 i Apêl Daeargryn Venezuela y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC), yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol a darodd y wlad yr wythnos diwethaf.