International day of the girl-2

Cymru'n cefnogi urddas mislif ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch

Wales backs period dignity on International Day of the Girl

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Ferch heddiw drwy ailddatgan ei hymrwymiad i roi terfyn ar dlodi mislif ac adeiladu Cymru sy'n Falch o'r Mislif.

Gall tlodi mislif effeithio ar unrhyw un sy'n cael mislif, a gall arwain at golli ysgol, gwaith a gweithgareddau cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mislif a sicrhau nad oes unrhyw un o dan anfantais o'u herwydd.

Mae'r Grant Urddas Mislif yn sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol gan gynnwys banciau bwyd, llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Mae lleoliadau chwaraeon a diwylliannol a chyflogwyr hefyd yn cael eu hannog i ddarparu cynnyrch am ddim i staff ac ymwelwyr yng nghynllun 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal, mae iechyd mislif yn flaenoriaeth yng Nghynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, gan gynnwys cefnogaeth barhaus i'r adnoddau Mislif Fi, sy'n helpu pobl ifanc i ddysgu am y mislif a thyfu i fyny.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

"Mae urddas a thlodi mislif yn effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru, sy'n ei wneud yn fater i bob un ohonom.

"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merch, cawn ein hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu rheoli eu mislif gydag urddas, hyder a balchder.

"Mae ein cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif yn ymwneud â chwalu stigma a gwneud yn siŵr nad oes neb yn cael eu dal yn ôl gan rywbeth mor naturiol â mislif."

Enghraifft dda o'r gwaith hwn yw prosiect ar Ynys Môn, lle mae pob ysgol gynradd yn cael cynnig sesiynau ar y mislif i ddisgyblion ym Mlwyddyn 6, waeth beth fo'u rhyw, ochr yn ochr â hyfforddiant staff, nosweithiau rhieni a phecynnau cychwynnol o gynhyrchion cynaliadwy.

Dywedodd Cydlynydd Ysgolion Iach, Carla Desmond:

"Ledled Ynys Môn, rydym yn gweithio gydag ysgolion, disgyblion, rhieni a staff i wneud mislif yn bwnc trafod naturiol a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael heb y wybodaeth na’r cynhyrchion sydd eu hangen arnynt.

“Gall pob ysgol gael mynediad at wers gynhwysol Blwyddyn 6 a gaiff ei ddarparu i bob disgybl, sy’n ymdrin â mislif, y glasoed a thyfu i fyny.   Mae ysgolion hefyd yn derbyn adnoddau dwyieithog, hyfforddiant i staff, pecynnau cychwynnol o gynhyrchion cynaliadwy, a mynediad i gynhyrchion mislif am ddim.

“Mae ein nod yn syml: cael gwared ar yr embaras a’r stigma sy’n gysylltiedig â mislif a sicrhau bod pob person ifanc yn Ynys Môn yn teimlo'n wybodus, yn cael cefnogaeth ac yn hyderus.”

Nodiadau i olygyddion

For more information about periods, visit Bloody Brilliant, a source of knowledge, support and information for young people.

To find out where to access free period products in your area, contact your local authority.