Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymateb i ffigurau amddifadedd: Annog Prif Weinidog y DU i weithredu ar daliadau plant
Deputy First Minister responds to deprivation figures: UK Prime Minister urged to act over child payment
- Mae dadansoddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod tua dau o bob pump o blant yng Nghymru yn byw mewn amddifadedd incwm yn 2024.
- Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth newydd Cymru, a gwelwyd cynnydd cynnar ar ofal plant a ariennir, cynllun peilot Cynnal, a Strategaeth Tlodi Plant newydd.
- Mae angen sicrwydd gan Lywodraeth y DU ar gynllun peilot Cynnal.
Mynd i’r afael â thlodi plant yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac mae dadansoddiad o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 yn tanlinellu pwysigrwydd ei gwaith. Mae cynnydd cynnar wedi’i wneud i ehangu gofal plant a ariennir, datblygu cynllun peilot taliadau plant yng Nghymru, a chyflwyno strategaeth tlodi plant newydd sydd â thargedau ystyrlon a cherrig milltir clir.
Mae dadansoddiad a gyhoeddwyd heddiw o Fynegai Amddifadedd 2025 yn dangos bod tua dau o bob pump o blant yng Nghymru yn byw mewn amddifadedd incwm yn 2024. Mae’r canfyddiadau yn tynnu sylw at effaith barhaus tlodi ar gyfleoedd bywyd plant, gan gynnwys eu hiechyd, addysg a chyfleoedd yn y dyfodol.
Er mwyn cyflwyno cynllun peilot taliadau plant Cynnal yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd y rhai sy’n derbyn y taliad ar eu colled oherwydd rheolau’r Trysorlys.
Mae’r gwaith o ddatblygu Cynnal yn mynd rhagddo’n gyflym fel rhan o ymrwymiad craidd y llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi plant. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gytuno ar ddiystyriadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EF fel nad yw’r taliad yn lleihau’r hawl i fudd-daliadau eraill, gan ganiatáu i blant a theuluoedd dderbyn y cymorth mwyaf posibl.
Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, bwriad y cynllun peilot yw darparu taliad wythnosol i blant ifanc mewn aelwydydd incwm isel mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd awdurdodau lleol. Trwy roi arian ychwanegol yn uniongyrchol i gyllidebau teuluol, bydd yn anelu at helpu gyda chostau hanfodion bob dydd yn ystod blynyddoedd cynnar plentyn a lleihau peth o’r pwysau ariannol sy’n wynebu teuluoedd.
Yn ystod y misoedd cyntaf mewn grym, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau i gyflymu’r broses o ehangu cam cyntaf y cynnig gofal plant a ariennir i blant dwy oed, a hefyd wedi gwneud mwy o blant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan adeiladu ar y rhaglen sydd eisoes yn darparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgol gynradd.
Mae’r ymyriadau hyn yn sail i Strategaeth Tlodi Plant sydd wedi’i hadnewyddu â ffocws, a fydd yn cydlynu camau gweithredu ar draws y llywodraeth ac yn gosod targedau ystyrlon a mesurau clir i olrhain cynnydd wrth leihau tlodi plant dros y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
“Rydym wedi gwneud yn glir bod trechu tlodi yn rheidrwydd moesol yr ydym yn ei roi wrth wraidd gwaith y Llywodraeth. Rydym yn benderfynol o gymryd camau i helpu’r rhai mewn tlodi a hefyd i atal pobl rhag mynd i dlodi yn y lle cyntaf.
“Ychydig iawn o newid sydd wedi bod yng nghyfraddau tlodi plant yng Nghymru o dan lywodraethau blaenorol, ac mae lefelau tlodi plant nid yn unig yn parhau, ond yn dyfnhau.
“Mae’r dadansoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn cryfhau’r achos ymhellach ac yn amlygu angenrheidrwydd camau gweithredu cyflym a radical i fynd i’r afael â thlodi plant. Un o’r ymyraethau allweddol yw ein cynllun peilot Cynnal, ac rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i roi’r adnoddau inni nawr i gyflawni hyn yn effeithiol. Does dim amser i’w wastraffu.
“Mae gennym ffocws clir ar ddarparu cymorth ymarferol i deuluoedd drwy helpu teuluoedd gyda chostau bob dydd, ehangu gofal plant a ariennir, a datblygu ein cynllun peilot Cynnal i ddangos sut y gallwn gymryd camau uniongyrchol i fynd i’r afael â thlodi a chefnogi teuluoedd.”