Pobl sy'n wynebu caledi yng Nghymru i gael cymorth bwyd a thlodi brys
People facing hardship in Wales to get emergency food and poverty support
- Bron i £5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn awdurdodau lleol ledled Cymru i fynd i'r afael â thlodi
- Bydd cyllid yn cefnogi cymorth bwyd brys ac atal tlodi hirdymor
- Arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ardaloedd gwledig sy'n wynebu heriau penodol
Bydd pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw yn elwa ar bron i £5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol eleni.
Bydd y buddsoddiad gwerth £4.8m yn ariannu cymorth bwyd brys i bobl mewn argyfwng, ochr yn ochr â chymorth i atal tlodi.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r cyllid i gryfhau rhwydweithiau cymorth cymunedol fel clybiau cinio, archfarchnadoedd cymdeithasol a chaffis cymunedol. Gallant hefyd roi grantiau uniongyrchol i fanciau bwyd sy'n wynebu galw cynyddol.
Bydd y cyllid hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi, gan alluogi sefydliadau i gryfhau cyngor o ran costau byw i deuluoedd, gan helpu pobl i feithrin gwydnwch parhaol, nid dim ond ymdopi mewn argyfwng.
Bydd cyllid cyfalaf yn helpu sefydliadau i brynu oergelloedd, rhewgelloedd ac offer coginio, fel y gallant storio a dosbarthu mwy o fwyd, gan gynnwys cyflenwadau dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu.
Bydd arian ychwanegol hefyd yn mynd i awdurdodau lleol gwledig, gan gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu cymorth mewn ardaloedd gwledig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
"Ni ddylai neb yng Nghymru orfod mynd heb fwyd na ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i ymateb yn gyflym i bobl mewn argyfwng ar hyn o bryd, gan hefyd adeiladu'r cymorth hirdymor sy'n helpu teuluoedd i osgoi caledi yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n gwybod bod costau byw yn parhau i roi pwysau ar aelwydydd ledled y wlad, a dyna pam rydyn ni'n targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Rydyn ni am i bob rhan o Gymru gael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gefnogi pobl drwy gyfnodau anodd ac adeiladu gwydnwch parhaol ar gyfer y dyfodol."
Mae cyllid blaenorol wedi helpu prosiectau fel Down to Zero i gefnogi pobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Down to Zero yn darparu cynnyrch fforddiadwy, wedi'i dyfu'n lleol a heb blaladdwyr yn syth i garreg drws pobl yn Rhondda Cynon Taf. Darparwyd dros 230 o focsys llysiau ffres, cost isel yn Rhondda Cynon Taf y llynedd.
Dywedodd un o reolwyr safle Down to Zero, Llantrisant, Kevin Edwards:
"Fel yr arweinydd Llysiau yn Down to Zero, fy rôl i yw helpu gyda rhedeg y safle yn gyffredinol, ac i redeg gwaith dosbarthu prosiect 'Llysh bocs'. Ar hyn o bryd rwy'n dosbarthu bocsys llysiau i 40 o deuluoedd drwy Rondda Cynon Taf.
"Mae'r cynllun yn helpu teuluoedd sy'n cael trafferthion o ran tlodi bwyd gyda chyflenwadau bob tri diwrnod. Mae'n dorcalonnus clywed bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd bwydo eu plant, felly rwy'n falch iawn o fod yn rhan o gynllun sy'n ceisio lleihau tlodi bwyd."
Mae'r cyllid yn rhan o becyn ehangach o gymorth costau byw Llywodraeth Cymru, sy'n helpu aelwydydd i reoli pwysau ariannol, gwneud y mwyaf o'u hincwm a lleihau costau bob dydd.
Mae'r cymorth yn cynnwys; y Gronfa Gynghori Sengl, y Gronfa Cymorth Dewisol, y Rhaglen Cartrefi Clyd, talebau banc tanwydd, prydau ysgol am ddim a Bwyd a Hwyl sy'n rhaglen i ddarparu bwyd a gwella'r gwyliau ysgol.
Nodiadau i olygyddion
- The funding will be distributed to local authorities via the WLGA. Local authorities can then allocate funding in different ways and will be issued with guidance on how to use the funding but will have some discretion to utilise this funding for activity in areas of greatest need.
- Rural local authorities will be provided with an enhanced allocation to be utilised specifically for those rural areas within their locality.
- o This additional funding should support approaches that seek to improve access to services, improve service delivery in a rural context, strengthen community resilience and ensure that residents in rural areas can access support that is equivalent to that available in more urban locations.
- Welsh Government support: