James Minas-2

Hyfforddi dynion i helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru

Training men to help end violence against women in Wales

  • Mae ugain o ddynion ledled Cymru wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol i helpu i hyrwyddo parch a chynnal perthynas iach.
  • Mae'r rhaglen yn rhoi'r gallu i dynion sy'n gweithio gyda phobl ifanc i herio ymddygiadau niweidiol a thrafod gwrywdod cadarnhaol.
  • Mae'r cerddor o Gaerdydd, James Minas, wedi lansio Bros B4 Lows, grŵp cymorth i ddynion yn y gymuned gerddoriaeth, ar ôl cael ei ysbrydoli gan yr hyfforddiant.

Mae ugain o ddynion ledled Cymru yn helpu i greu cymunedau mwy diogel i fenywod a merched ar ôl cwblhau hyfforddiant arbenigol drwy ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru.

Bellach, maen nhw'n defnyddio'r hyn a ddysgwyd i gefnogi dynion a bechgyn ifanc a hyrwyddo parch, hunan-fyfyrio a chynnal perthynas iach.

Nod Iawn yw atal trais yn erbyn menywod a merched trwy annog dynion i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac ymddygiadau iach, ac i gael sgyrsiau gyda'u cyfoedion.

Mewn partneriaeth â White Ribbon, hyfforddodd Llywodraeth Cymru ugain o ddynion sydd eisoes yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc, gan eu helpu i ddechrau sgyrsiau am ymddygiad niweidiol, cynnal perthyas iach a gwrywdod cadarnhaol.

Defnyddiodd un llysgennad, y cerddor o Gaerdydd, James Minas, yr hyfforddiant i sefydlu Bros B4 Lows - grŵp cefnogi dynion yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r grŵp yn darparu lle diogel i drafod iechyd meddwl, perthynas a heriau bywyd.

Meddai James Minas:

"Ymunais â'r rhaglen oherwydd roeddwn i eisiau dysgu mwy a theimlo'n fwy hyderus yn cael sgyrsiau anodd.

"Yn ystod yr hyfforddiant, sylweddolais nad oedd lle i ddynion yng nghymuned gerddoriaeth Caerdydd ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd. Mae'r byd cerddoriaeth yn gallu bod yn ynysig. Y bwriad oedd cynnig lle diogel i ddynion ddod at ei gilydd, i siarad cymaint neu cyn lleied ag y maen nhw'n dymuno. Dyna a ysbrydolodd Bros B4 Lows.

"Mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rydyn ni eisoes wedi cynnal sawl cyfarfod ac wedi dod â dynion o wahanol gefndiroedd cerddorol at ei gilydd. Mae'n rhoi cyfle i bobl siarad, gwrando a chefnogi ei gilydd. Mae'r sgyrsiau hynny'n bwysig iawn."

Dywedodd y  Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:

"Rydyn ni wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ein cymdeithas.

"Mae atal hyn yn allweddol ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan o ymateb system gyfan. Mae hynny'n golygu cydweithio ar draws y llywodraeth, gwasanaethau a chymunedau i herio agweddau niweidiol, hyrwyddo parch ac atal cam-drin rhag digwydd yn y lle cyntaf.

"Mae ein llysgenhadon Iawn eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.

"Mae angen modelau rôl cadarnhaol ar ddynion ifanc sy'n gallu arwain sgyrsiau gonest am barch, perthnasoedd ac ymddygiad. Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i lysgenhadon wneud yn union hynny."