Gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed mewn 86% o awdurdodau lleol
Funded childcare for all two-year olds in 86% of local authorities
- Nifer yr awdurdodau lleol sy'n cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed yn codi o dri ym mis Mai 2026 i 19 erbyn diwedd mis Tachwedd.
- Pob un o'r 22 awdurdod lleol ar y ffordd i gynnig hyn erbyn diwedd mis Mawrth.
- Dyma'r cam cyntaf tuag at gynnig gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Dyma fydd y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig wedi iddo gael ei ehangu'n llawn.
Chwe mis ar ôl dod i rym, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed o dri awdurdod lleol yn unig i 19 erbyn diwedd y mis hwn. Mae'r 22 awdurdod ar y trywydd iawn i fedru cynnig hyn erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae hyn yn bosibl oherwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £55 miliwn mewn gofal plant eleni, sy'n helpu i gyflymu'r broses o gyflwyno gofal plant a ariennir i fwy o blant dwy oed ledled Cymru.
I nodi'r garreg filltir, bydd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams heddiw yn ymweld â Meithrinfa Ddydd Little Inspirations a Camau Cyntaf Meithrin yn Rhydfelen, Pontypridd, lle mae teuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf wedi gallu manteisio ar y cynnig ers mis Medi. Mae'r feithrinfa ddwyieithog yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu seiliedig ar chwarae i blant ifanc mewn lleoliadau dan do ac awyr agored.
Dywedodd Rhys Lee, y mae ei ferch ddwy oed yn mynychu meithrinfa yn ardal yr awdurdod lleol:
"Mae'r 12.5 awr o ofal plant a ariennir wedi cael effaith hynod bositif ar ein teulu ni, yn enwedig gan nad oedd y cymorth hwn ar gael pan gafodd ein plentyn cyntaf ei eni.
"Mae wedi ein galluogi ni i anfon ein merch i leoliad gofal plant proffesiynol, gan gefnogi ei dysgu, ei datblygiad a'i sgiliau cymdeithasol heb inni orfod poeni am y gost ariannol. Nid yn unig rydyn ni wedi gweld budd i'w datblygiad, ond mae'r oriau a ariennir hefyd wedi rhoi mwy o hyblygrwydd ariannol i ni fel teulu. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu cynllunio a chyllidebu ar gyfer gweithgareddau a chyfleoedd eraill i gefnogi datblygiad y plant, heb y pwysau ychwanegol o dalu am ofal plant preifat ar ben hynny.
"Yn gyffredinol, mae'r oriau a ariennir wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n teulu ni, gan gefnogi datblygiad cynnar ein merch a'n helpu i ymdopi â chostau ehangach magu plant."
Cyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos ar gyfer pob plentyn dwy oed yw cam cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnig gofal plant i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. Wrth i'r rhaglen ddatblygu, bydd y cynnig ar gyfer plant dwy oed yn cynyddu i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos o'r flwyddyn cyn cael ei gynnig i blant iau.
Bydd y newidiadau hyn yn darparu'r cynnig gofal plant cyffredinol mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams:
"Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o gyflawni ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd gyda chostau byw trwy ein cynnig gofal plant a ariennir.
"Pan ddaethom ni i rym ym mis Mai, dim ond tri awdurdod lleol oedd yn cynnig gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed. Dim ond chwe mis yn ddiweddarach, bydd 19 awdurdod lleol yn darparu'r cynnig erbyn diwedd y mis hwn, gyda'r tri arall ar y trywydd iawn i wneud hynny erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'r cynnydd cyflym hwn yn dangos ein bod ni'n benderfynol i fwrw ymlaen â'r gwaith o drawsnewid gofal plant i deuluoedd ledled Cymru, gan wireddu ein hymrwymiad mewn cymunedau ledled y genedl.
"Rydyn ni'n credu bod pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd, ac ni ddylai unrhyw deulu gael ei ddal yn ôl gan gost gofal plant. Ar adeg pan fo costau gofal plant yn rhoi pwysau gwirioneddol ar deuluoedd, mae'r cynnig trawsnewidiol hwn yn helpu mwy o deuluoedd i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, gan fynd i'r afael â thlodi, cefnogi teuluoedd sy'n gweithio a chreu cyfleoedd ledled Cymru."