Newyddion
Canfuwyd 18 eitem, yn dangos tudalen 2 o 2
Llywodraeth Cymru yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog
- Y Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol mewn digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Sir Gaerfyrddin
- Cefnogir y digwyddiad eleni gan gyfraniad o £20,000
- Cymorth wedi’i dargedu ar draws meysydd datganoledig ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Grŵp arbenigol yn cyfarfod i lunio cynnig gofal plant estynedig Cymru
- Mae grŵp arbenigol wedi cyfarfod am y tro cyntaf i helpu i lunio cynlluniau i ehangu gofal plant a ariennir i blant rhwng naw mis a phedair oed yng Nghymru.
- Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu, cynyddu’r defnydd o'r cynnig, a symleiddio systemau.
- Roedd sefydlu’r grŵp yn un o ymrwymiadau’r 100 Diwrnod Cyntaf, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cynnig yn raddol.
Llywodraeth Cymru yn cyflymu'r gwaith o ehangu gofal plant a ariennir gyda chyllid newydd
- Buddsoddiad gofal plant £55 miliwn.
- Mae hyn yn gyflwyniad graddol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.
- Mae Wrecsam wedi ymuno ag Abertawe, Merthyr Tudful a Chasnewydd i ehangu'r cynnig i bob plentyn dwy oed yn eu hardaloedd.
Y Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu dull newydd o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru
- Bwrw ymlaen â gwaith i gyflwyno cynnig gofal plant trawsnewidiol – penodi grŵp arbenigol
- Cyhoeddi cyd-gadeirydd ar gyfer Cynnal – Taliad Plant Cymru - grŵp arbenigol
- Cynllun uchelgeisiol a chyflawnadwy i fynd i'r afael â thlodi plant
Y Gronfa Balchder Llawr Gwlad ar agor ar gyfer ceisiadau
- O 15 Mehefin, gall trefnwyr Balchder lleol ledled Cymru wneud cais am gyllid i dalu costau cynnal digwyddiadau.
- Mae'r gronfa yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Pride Cymru.
Y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y cynnig gofal plant mwyaf hael yn hanes datganoli
- Llywodraeth Cymru yn anelu at ddarparu 20 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 mlwydd oed
- Y cynnig hwn yn ystod pedair blynedd gyntaf bywyd plentyn fydd y mwyaf hael yn y DU
- Gofal plant cyfrwng Cymraeg i gael ei ehangu