Llywodraeth Cymru yn rhoi £50,000 i Apêl Daeargryn Venezuela y DEC
Welsh Government donates £50,000 to DEC Venezuela Earthquake Appeal
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o £50,000 i Apêl Daeargryn Venezuela y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC), yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol a darodd y wlad yr wythnos diwethaf.
Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sefydliadau sy’n aelodau o DEC i ddarparu lloches, bwyd, dŵr a gofal meddygol brys i bobl yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams : "Mae'r golygfeydd o Venezuela yn dorcalonnus. Mae'r bobl yno angen cymorth dyngarol brys o bob cwr o'r byd, ac rydyn ni’n sefyll gyda'r cymunedau hynny ac yn cefnogi'r ymateb rhyngwladol.
"Byddwn yn annog pawb sy'n gallu cyfrannu i wneud hynny trwy apêl DEC. Gyda'n gilydd, gallwn helpu i ddod â chymorth hanfodol i'r rhai sydd wedi colli cymaint."
I gyfrannu at Apêl Daeargryn DEC Venezuela, ewch i dec.org.uk.