Sioned Williams

Galwad i weithio mewn partneriaeth ar gyfiawnder yng Nghymru

Call to work in partnership on justice in Wales

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais cryf ar weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i wella canlyniadau ar draws y system gyfiawnder yng Nghymru – dyna oedd neges y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams heddiw.

Mewn llythyr at yr Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder newydd, Alex Norris, galwodd y Dirprwy Brif Weinidog am ymrwymiad cynnar ganddo i ddatganoli cyfiawnder a phlismona, fel arddangosiad o ymagwedd ddiwygiedig Llywodraeth y DU at ddatganoli

Yn y cyfamser mewn llythyr at Weinidog Gwladol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Catherine McKinnell, pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog hefyd yr ymrwymiad i leihau effaith anghymesur y system gyfiawnder ar fenywod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod yn Abertawe.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar gyfiawnder yng Nghymru.

"Mae angen inni leihau’r effaith anghymesur ar fenywod yn sgil y rhaniad cymhleth rhwng cyfrifoldebau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod llai o fenywod sy'n cael eu dedfrydu yng Nghymru yn mynd i'r carchar yn Lloegr, ymhell o'u teuluoedd a'u rhwydweithiau cymorth.

Yn anffodus, yn fwyaf diweddar cefais wybod gan y Gweinidog Carchardai blaenorol nad oedd hi wedi bod yn bosibl sicrhau cyllid ar gyfer y ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe. Rwyf wedi annog y Gweinidog newydd i weithio gyda chydweithwyr yn y Trysorlys i sicrhau y caiff y penderfyniad hwn ei ailystyried cyn gynted â phosibl.

"Mae pwysigrwydd y ganolfan hefyd wedi cael ei amlygu gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

"Rwy'n awyddus i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ein huchelgais gyffredin ar gyfiawnder i fenywod."