Age Connects Morgannwg2

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fudd-daliadau symlach a thecach i bobl hŷn

Welsh Government commits to simpler, fairer benefits for older people

  • Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar bobl hŷn i hawlio'r cymorth ariannol sy'n ddyledus iddynt.
  • Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog ag Age Connects Morgannwg i weld cyngor lles ar waith.
  • Gweithio tuag at system les symlach a thecach i Gymru

 

Mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl hŷn ledled Cymru i hawlio'r cymorth ariannol sy'n ddyledus iddynt, gan helpu i sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd y rhai sydd ei angen.

Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams, â Cynon Linc Age Connects Morgannwg heddiw i gwrdd â staff a defnyddwyr gwasanaethau, a chlywed sut mae cyngor lles wyneb yn wyneb yn helpu pobl hŷn i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael iddynt.

Daeth i'r amlwg bwysigrwydd cyngor cymunedol gan bobl sydd wedi ennill ymddiriedaeth, yn enwedig i bobl hŷn sydd efallai yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dywedodd Daisy Cole, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg: "Ry'n ni wrth ein bodd yn cael croesawu'r Dirprwy Brif Weinidog i Cynon Linc a chael y cyfle i ddangos pam, i lawer o bobl hŷn, mai estyn allan am gymorth yw'r cam anoddaf.

"Mae pobl hŷn yn dweud wrthon ni'n aml nad y gefnogaeth ariannol yn unig y maen nhw'n ei chael sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ond y tawelwch meddwl o wybod bod rhywun wedi gwrando, yn deall eu sefyllfa ac yn gallu eu helpu i ddefnyddio system sy'n aml yn teimlo'n gymhleth.

"Ddylai neb fod ar eu colled o ran y gefnogaeth sy'n ddyledus iddyn nhw am nad ydyn nhw'n gwybod ble i droi, bod y system yn rhy anodd iddyn nhw ei defnyddio neu nad ydyn nhw'n teimlo y gallan nhw ofyn am help.

"Mae tawelwch meddwl yn dechrau gyda gwybod nad oes rhaid ichi wynebu pethau ar eich pen eich hun. Dyna pam mae perthynas ag eraill yn bwysig. Mae'n rhoi'r hyder i bobl gymryd y cam cyntaf hwnnw, gan wybod y bydd rhywun yn gwrando, yn deall ac yn cerdded wrth eu hochr."

A biliau ynni yn parhau i godi, mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud budd-daliadau Cymru yn symlach, yn decach ac yn haws cael gafael arnynt. Bydd yn adolygu'r budd-daliadau a'r cynlluniau cymorth presennol i sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl, ac yn archwilio ffyrdd o gynyddu'r nifer sy'n manteisio arnynt, gan barhau ar yr un pryd i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o bwerau lles i Gymru.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams: "Ry'n ni'n gweithio tuag at System Les Gymreig sy'n symlach, yn decach ac yn haws ei defnyddio, gan ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael y cymorth ariannol sy'n ddyledus iddyn nhw. Mae hynny'n cynnwys gwella sut caiff budd-daliadau Cymru eu darparu, gan sicrhau ar yr un pryd bod cyngor a chymorth wyneb yn wyneb yn parhau i fod ar gael i'r rhai sydd ei angen.

"Mae gwasanaethau fel Age Connects Morgannwg yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl i ddeall pa gymorth sydd ar gael a rhoi'r hyder iddyn nhw i hawlio'r hyn sy'n ddyledus, fel bod llai o bobl hŷn ar eu colled o ran y cymorth ariannol a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.

"Ry'n ni hefyd yn glir mai gwneud penderfyniadau lles mor agos â phosibl at y bobl a fydd yn elwa sydd orau. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau lles i Gymru, fel y gallwn ni adeiladu system sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ein pobl yn well.

"Os ydych chi'n meddwl y gallai fod gennych chi, neu rywun ry'ch chi'n ei 'nabod, hawl i gymorth ariannol, rwy'n eich annog i ofyn am gyngor a darganfod pa gymorth sydd ar gael."

Ledled Cymru, gall cynghorwyr Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi o dan Advicelink Cymru helpu pobl i ddarganfod a ydynt yn gymwys i gael incwm ychwanegol, a'u tywys drwy'r broses hawlio. I gael cyngor cyfrinachol am ddim, ffoniwch 0800 702 2020.