Sioned Williams

Llywodraeth Cymru yn cyflymu'r gwaith o ehangu gofal plant a ariennir gyda chyllid newydd

Welsh Government accelerates funded childcare expansion with new funding

  • Buddsoddiad gofal plant £55 miliwn.
  • Mae hyn yn gyflwyniad graddol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.
  • Mae Wrecsam wedi ymuno ag Abertawe, Merthyr Tudful a Chasnewydd i ehangu'r cynnig i bob plentyn dwy oed yn eu hardaloedd.

Bydd cannoedd yn fwy o deuluoedd yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal plant wedi'i ariannu diolch i fuddsoddiad o £55 miliwn a gyhoeddwyd heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad o £55 miliwn mewn gofal plant, gan gynnwys y broses o gyflwyno gofal plant a ariennir i fwy o blant dwy oed ledled Cymru a £10 miliwn o gyllid cyfalaf, fel rhan o'r Gyllideb Atodol Gyntaf 2026-27.

Bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu'r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos i bob plentyn dwy oed, a ddarperir trwy awdurdodau lleol.

Bydd £10m o gyllid cyfalaf yn helpu i wella ac ehangu lleoliadau gofal plant, gan wella ansawdd, capasiti a hygyrchedd y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.

Bydd y cyllid yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r system gofal plant trwy helpu i reoli galw cynyddol, cryfhau cynaliadwyedd hirdymor darparwyr, a chefnogi gofal plant cyfrwng Cymraeg - gan gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae'r cyllid yn gam sylweddol tuag at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20 awr o ofal a ariennir yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. Ar ôl ei gyflwyno'n llawn, y cynnig gofal plant newydd fydd y cynnig mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.

Heddiw, mae Wrecsam wedi ymuno ag Abertawe, Merthyr Tudful a Chasnewydd wrth ddarparu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed yn eu hardaloedd.

Dywedodd Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, sy'n gyfrifol am ofal plant:

"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i deuluoedd Cymru. Cymru sydd â'r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rwy'n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd. 

"Rwy'n arbennig o falch bod Wrecsam bellach yn ehangu eu cynnig gofal plant i bob plentyn dwy oed, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno hyn ym mhobman. Mae hyn yn golygu gwario gyda phwrpas - fel bod pob punt yn gweithio'n galetach i Gymru.”

Bydd y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant yn cynghori ar ddatblygu'r broses gyflwyno, gan ganolbwyntio ar gynllunio'r gweithlu, cymwysiadau digidol a gwella mynediad i bob teulu.