Cymru’n agosáu at Gynnig Gofal Plant Cyffredinol
Wales moves closer towards Universal Childcare Offer
- Y Dirprwy Brif Weinidog yn nodi’r llwybr a’r camau ar gyfer cynnig gofal plant a ariennir i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
- Disgwyl i awdurdodau lleol wneud camau breision tuag at ymestyn y cynnig i bob plentyn dwy oed o ganlyniad i’r cyllid diweddar, gan osod sylfaen ar gyfer gofal plant sydd wir ar gael i bawb.
- Ugain o awdurdodau lleol yn disgwyl cynnig darpariaeth i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd 2026-27.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun i ehangu gofal plant yn raddol, gan nodi’r camau ar gyfer cyflwyno cynnig gofal plant cyffredinol i blant rhwng naw mis a phedair oed.
Wrth siarad yn y Senedd, amlinellodd y Dirprwy Brif Weinidog y rhaglen, a fydd yn y pen draw yn darparu 20 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am 48 wythnos o’r flwyddyn i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
Ar ddechrau tymor y Senedd hon, roedd tri awdurdod lleol – Merthyr Tudful, Casnewydd ac Abertawe – wedi cyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir ar gyfer pob plentyn dwy oed. Dilynodd Wrecsam fis diwethaf, ac mae 16 awdurdod lleol arall yn disgwyl cyflwyno’r ddarpariaeth yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, gyda chefnogaeth £55m o gyllid ychwanegol sydd wedi’i gynnig yn y Gyllideb Atodol. Mae’r gwaith yn parhau gyda’r ddau awdurdod lleol arall i helpu i ehangu’r cynnig yn eu hardaloedd.
Bydd camau’r rhaglen yn canolbwyntio ar:
- Gwblhau’r gwaith o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed ledled Cymru.
- Cynyddu lefel y cymorth i blant dwy oed i 20 awr a ariennir yr wythnos am 48 wythnos, gan symud yn gyflymach lle mae amgylchiadau lleol yn caniatáu hynny.
- Gweithio gyda darparwyr gofal plant i ymestyn y cynnig estynedig i bob plentyn tair a phedair oed.
- Adeiladu ar y cynigion hyn cyn ymestyn cymorth i blant rhwng naw mis a dwy oed.
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw y bydd teuluoedd ledled Cymru yn gallu cael mynediad at gynnig gofal plant a ariennir symlach a mwy cyson i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i fireinio costau a chynlluniau cyflawni, gan gynnwys capasiti’r gweithlu, anghenion hyfforddi a chymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau bod gan ddarparwyr gofal plant y cyfleusterau a’r adnoddau i gynnig mwy o leoedd.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy’n gyfrifol am ofal plant, Sioned Williams: “Mae diffyg gofal plant fforddiadwy yn broblem gymdeithasol sydd angen ei datrys, a thrwy ei datrys byddwn yn darparu buddion sy’n rhychwantu cydraddoldeb rhywedd, datblygiad cynnar plant, trechu tlodi, cefnogi ein heconomi, a gwella canlyniadau iechyd ac addysg.
“Ein nod clir yw bod cynnig gofal plant symlach, mwy cyson ar gael i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed ledled Cymru erbyn diwedd y tymor Seneddol hwn. Mae gan Gymru’r cyfle i arwain y ffordd a chyflawni cynnig sydd wir ar gael i bawb – rhywbeth mae dim ond llond llaw o wledydd yn y byd wedi’i gyflawni, a dim un yn y DU.
“Rydym yn gwneud cynnydd gwych o ran gwireddu’r ymrwymiad hwn i ddarparu system gofal plant sy’n gweithio i blant a theuluoedd.”
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol, darparwyr a chynrychiolwyr sector drwy’r Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant sydd newydd ei sefydlu i gefnogi’r gwaith cyflawni. Bydd cynllun gweithlu yn cael ei ddatblygu i gefnogi recriwtio, cadw a thyfu’r gweithlu gofal plant sydd ei angen i ddarparu’r cynnig estynedig.