Grŵp arbenigol yn cyfarfod i lunio cynnig gofal plant estynedig Cymru
Expert group meet to shape Wales's universal childcare offer
- Mae grŵp arbenigol wedi cyfarfod am y tro cyntaf i helpu i lunio cynlluniau i ehangu gofal plant a ariennir i blant rhwng naw mis a phedair oed yng Nghymru.
- Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu, cynyddu’r defnydd o'r cynnig, a symleiddio systemau.
- Roedd sefydlu’r grŵp yn un o ymrwymiadau’r 100 Diwrnod Cyntaf, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cynnig yn raddol.
Mae grŵp arbenigol a fydd yn helpu i lunio, cefnogi a chynghori ar ddarparu’r cynnig gofal plant estynedig yng Nghymru wedi cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.
Y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, a gadeiriodd gyfarfod agoriadol y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant.
Daw’r aelodau o amrywiaeth o gyrff sy’n cynrychioli darparwyr gofal plant, y gweithlu, gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol, ynghyd ag economegydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu gofal plant i blant rhwng naw mis a phedair oed dros dymor y Senedd hon. Roedd sefydlu'r grŵp yn un o ymrwymiadau'r 100 Diwrnod Cyntaf.
Yn y cyfarfod, cytunodd yr aelodau ar sut y bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd ac ar eu blaenoriaethau ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae blaenoriaethau’r grŵp yn cynnwys cynllunio’r gweithlu, cynyddu’r defnydd o’r cynnig, a symleiddio systemau, er mwyn sicrhau bod y cynnig estynedig yn cyrraedd teuluoedd ledled Cymru yn brydlon.
Bydd y Grŵp Llywio Arbenigol yn gweithredu ochr yn ochr â thasglu gofal plant Llywodraeth Cymru, gan ddarparu’r arbenigedd strategol i lywio gwaith y tasglu o roi’r cynnig ar waith.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a chadeirydd y grŵp arbenigol, Sioned Williams:
“Roedd hi’n bleser cadeirio cyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio Arbenigol wrth inni fwrw ymlaen â’r cynnig gofal plant trawsnewidiol hwn.
"Bydd ehangu gofal plant o safon yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd, ac mae hynny’n flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon.
Fel rhan o’n hymrwymiadau ar gyfer y 100 Diwrnod Cyntaf, rydyn ni wedi mynd ati'n ddiymdroi i sefydlu’r Grŵp Llywio Arbenigol a thasglu Llywodraeth Cymru – ymrwymiad rydyn ni’n falch o’i gyflawni. Bydd y Grŵp Arbenigol yn cynnig cyngor strategol a syniadau ymarferol i’n helpu i ehangu gofal plant a ariennir yn raddol. Dw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda nhw i wireddu newid go iawn i deuluoedd ledled Cymru."
Dywedodd cynrychiolydd Cwlwm a Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Catrin Edwards:
“Mae gwaith y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant yn gam pwysig tuag at gyflwyno cynnig gwirioneddol uchelgeisiol. Ein ffocws yw sicrhau bod yr ehangu’n gweithio’n ymarferol – wedi’i gyflwyno’n effeithiol ac yn gynaliadwy ar lawr gwlad. Rydym am gefnogi adeiladu system sy’n para, fel y gall plant a theuluoedd elwa’n llawn, tra hefyd yn cefnogi’r sector a’r gweithlu gofal plant i dyfu a ffynnu.
“Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â gwella canlyniadau i blant a theuluoedd, gyda chyfle gwerthfawr i gryfhau mynediad cynnar i’r Gymraeg fel rhan o’r cynnig ehangach.”
Mae aelodau'r Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant yn cynnwys:
Cadeirydd – Sioned Williams, y Dirprwy Brif Weinidog
- Dr Su-Min Lee, London Economics
- Dr Lowri Vaughan Brown – Prif Swyddog Addysg, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru
- Sharon Davies – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cwlwm – David Goodger o Blynyddoedd Cynnar Cymru, a Catrin Edwards o'r Mudiad Meithrin.
- Gemma Halliday – Gofal Cymdeithasol Cymru