Hwb o £5m i uwchraddio mannau cymunedol ledled Cymru
£5m boost to upgrade community spaces across Wales
- Hwb o £5m i uwchraddio a thrawsnewid mannau cymunedol ledled Cymru
- Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i fwy o brosiectau dan arweinir y gymuned gael mynediad at gyllid
- Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld â Llyfrgell Cymer Afan, sydd wedi'i hadnewyddu gyda chyllid o £181,300
Bydd £5 miliwn ar gael i uwchraddio a thrawsnewid mannau lle mae pobl mewn cymunedau yn ymgynnull ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r cyllid ychwanegol i'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol (CFP) eleni, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd ym mis Gorffennaf.
Mae CFP yn helpu sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i wella cyfleusterau cymunedol a ddefnyddir yn aml ac y mae mawr eu hangen - fel canolfannau cymunedol, cyfleusterau chwaraeon llawr gwlad a llyfrgelloedd - trwy waith adnewyddu sy'n arwain at welliannau sydd o fudd i bobl leol.
Eleni, bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i ganiatáu i fwy o brosiectau dan arweiniad y gymuned gael mynediad at gyllid.
Drwy'r rhaglen, gellir rhoi grantiau o hyd at £300,000 ar gyfer prosiectau mawr dan arweiniad y gymuned a hyd at £25,000 ar gyfer gwelliannau ar raddfa lai.
Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams:
"Mae ein cymunedau ar eu cryfaf pan fydd gan bobl fannau croesawgar, hygyrch i'w mwynhau gyda’i gilydd.
"Bydd y buddsoddiad hwn o £5 miliwn yn helpu i greu lleoedd lle mae pawb yn perthyn, lle mae cyfeillgarwch yn cael ei greu a lle gall bywyd lleol wir ffynnu. O lyfrgelloedd i gyfleusterau chwaraeon, rwy'n falch y gallwn gefnogi mwy o fannau sy'n dod â phobl at ei gilydd – gan helpu cymunedau ledled Cymru i ffynnu."
Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog â Llyfrgell Cymer Afan yng Nghastell-nedd ddoe - dyfarnwyd £181,300 i'r llyfrgell eisoes i adnewyddu'r cyfleuster.
Dywedodd rheolwr gwasanaethau Llyfrgell Cymer Afan, Elinor Davies:
"Mae'r cyllid wedi ein galluogi i ehangu ein rhaglen o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau cymorth, er enghraifft ein banc bwyd a'n pantri bwyd, gan ein helpu i gyrraedd teuluoedd, plant, pobl ifanc a thrigolion hŷn ar draws ein cymuned.
"Fel llyfrgell gymunedol, rydym yn llawer mwy na lle i fenthyg llyfrau. Rydym yn ofod croesawgar, hygyrch lle mae pobl yn dod at ei gilydd i ddysgu, gwirfoddoli, cysylltu, cefnogi ei gilydd, defnyddio'r Gymraeg a theimlo'n rhan o'u cymuned."