Sioned Williams cropped cropped

'Dylai penderfyniadau lles i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru' – y Dirprwy Brif Weinidog

'Welfare decisions for Wales should be made in Wales' – Deputy First Minister

  • Mae Llywodraeth Cymru am weld penderfyniadau lles i bobl yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru 
  • Mae mynediad haws at fudd-daliadau presennol Cymru eisoes yn helpu mwy o bobl i gael cymorth 
  • Bydd y cynllun peilot Cynnal yn profi taliad i blant ac yn llunio achos dros bwerau i'w gyflwyno 

Gallai teuluoedd yng Nghymru gael help wedi'i lunio o amgylch eu hanghenion, os yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau pwerau dros les.  

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwerau lles a bydd yn cyflwyno cynllun clir ar sut y dylid gwneud hyn. 

Mewn datganiad llafar i'r Senedd, amlinellodd y Dirprwy Brif Weinidog y cynllun ar gyfer System Les i Gymru sy'n decach ac yn fwy tosturiol, fel bod penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. 

Pan fo Cymru eisoes yn gwneud y penderfyniadau, mae teuluoedd yn gweld y budd.  

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno cam cyntaf ei chynnig gofal plant cyffredinol, gyda 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu ar gael i bob plentyn dwy oed mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol. Mae hyn yn helpu i leihau costau i deuluoedd, mynd i’r afael â thlodi a chefnogi pobl i fynd i mewn i waith. 

Wrth symud ymlaen, bydd peilot Taliad Plant Cynnal, sef taliad wythnosol uniongyrchol i deuluoedd â phlant ifanc sy’n hawlio Credyd Cynhwysol mewn awdurdodau lleol dethol, yn dangos sut y gall teuluoedd elwa ar bwerau presennol Llywodraeth Cymru tra’n adeiladu’r achos dros gyflwyno’r cynllun yn ehangach drwy bwerau ychwanegol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw taliad Cynnal yn lleihau hawl y rhai sy'n ei dderbyn i fudd-daliadau eraill. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:   

"Mae cyfraddau tlodi yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y DU ac mae angen cymryd camau ystyrlon i fynd i'r afael â'r lefel hon o galedi. Fodd bynnag, mae'r pwerau allweddol yn rhy aml yn nwylo Llywodraeth y DU. 

"Dylai penderfyniadau lles i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Er mwyn gallu creu system les decach a mwy tosturiol – un sy'n adlewyrchu ein hanghenion a'n gwerthoedd yn well – mae angen i Gymru gael mwy o reolaeth dros y penderfyniadau lles sy'n effeithio ar fywydau ein dinasyddion.   

"Mae Taliad Plant yr Alban wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i dlodi plant yn yr Alban ac mae hyn yn rhywbeth yr hoffem ei wneud yma yng Nghymru drwy ein cynllun peilot taliad plant Cynnal. Fodd bynnag, mae hyn yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd yn cosbi'r rhai sy'n derbyn y taliad – teuluoedd ar incwm isel, a chanddynt blant ifanc, sydd ei angen fwyaf. 

"Mae cael y gallu i lunio atebion fel Cynnal sy'n diwallu anghenion cymunedau yng Nghymru yn enghraifft o pam mae'n rhaid i ni barhau i ddadlau o blaid datganoli pwerau lles." 

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol ac eraill i wneud budd-daliadau Cymru yn haws i'w hawlio. Mae'r rhain yn cynnwys Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, prydau ysgol am ddim a Thalebau Cychwyn Iach.