Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Statement from the Cabinet Minister for Finance
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Elin Jones:
"Roedd y Gyllideb Atodol yn darparu £294m o gyllid ychwanegol i leihau amseroedd aros y GIG, ehangu gofal plant, ac ymestyn prydau ysgol am ddim.
"Nid oedd yn cynnwys unrhyw ostyngiadau i wasanaethau presennol. Roedd yn ymwneud â rhoi cyllid ychwanegol ar waith lle y gallai wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.
“Rydym wedi ymrwymo o hyd i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Byddwn yn parhau i drafod yn adeiladol gyda phleidiau eraill y Senedd wrth ddatblygu ein cynlluniau gwario yn yr Hydref."