Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid - Cyn Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Statement from the Cabinet Minister for Finance - Ahead of the UK Government’s Budget

Cyn Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones:

“Ers blynyddoedd, mae ein cenedl wedi bod ar ei cholled. Mae'r Gyllideb hon yn foment dyngedfennol, ac mae angen i'r Canghellor weithredu yn hytrach na dim ond cydnabod y broblem.

“Dim ond 1% o wariant Network Rail ar draws Cymru a Lloegr sy'n dod i Gymru. Dyw hynny ddim yn fargen deg o bell ffordd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo £14 biliwn i wneud iawn am ddegawdau o danariannu. Ry'n ni'n pwyso am ryddhau £1 biliwn o'r arian hwnnw nawr, fel bod pobl Cymru yn gweld gwelliannau gwirioneddol, nid mwy o addewidion yn cael eu gohirio o hyd.

“Mae toriadau mewn termau real i'n cyllidebau o ddydd i ddydd a'n cyllidebau cyfalaf yn ein dal yn ôl. Mae angen i'r toriadau hynny gael eu gwrthdroi nawr, ac mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi'r prosiectau ynni a seilwaith fydd yn diogelu ein dyfodol.

“Mae pobl yn cael trafferth ymdopi â chostau byw. Nid opsiwn yw darparu cymorth wedi'i dargedu i'r aelwydydd mwyaf bregus, yn enwedig y rhai sy'n wynebu costau ynni uchel - mae'n hanfodol. Mae rhewi'r Lwfans Tai Lleol, er bod rhenti'n codi, yn gwthio pobl tuag at ddigartrefedd. Mae'n rhaid rhoi stop ar hynny.

“Mae Cymru'n chwarae ei rhan lawn yn economi'r Deyrnas Unedig. Ry'n ni'n cyfrannu. Nawr mae'n bryd i’r Llywodraeth gydnabod yr uchelgais honno drwy weithredu, a darparu cyllideb sy’n ein trin yn deg o’r diwedd.”

Nodiadau i olygyddion

Gofynnir am £1bn o'r ymrwymiad £14bn dros y cyfnod yr adolygiad gwariant presennol (hyd at 2029-30).