Datganiad gan y Prif Weinidog
Statement from the First Minister
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth:
“Roeddwn yn falch o gwrdd â’r Prif Weinidog Andy Burnham i’w longyfarch yn bersonol ar ei rôl newydd. Croesawais y cyfle i ddechrau pennod newydd yn y berthynas rhwng ein llywodraethau, yn seiliedig ar barch ac ymrwymiad ar y cyd i gyflawni dros y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
“Rwy’n gwybod bod Andy Burnham yn rhannu fy nghred yng ngrym datganoli i wella bywydau pobl. Yn yr ysbryd hwnnw, cyflwynais yr achos i Gymru gael cydraddoldeb pwerau â’r Alban drwy Fil Cymru newydd, gyda phwyslais uniongyrchol ar ddatganoli plismona a chyfiawnder, a model cyllido tecach yn lle y Fformiwla Barnett sydd wedi dyddio erbyn hyn.
“Trafodom fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw parhaus a’n hymrwymiad ar y cyd i fabwysiadu dull mwy cydweithredol o ymdrin â gwleidyddiaeth.
“Amlinellais hefyd fy nisgwyliad na fyddai Rhif 10 y Gogledd yn troi’n Whitehall â chod post gwahanol, ac y bydd y Prif Weinidog yn dangos cymaint o frwdfrydedd dros rymuso ein Senedd ag y mae eisoes wedi’i ddangos tuag at ddatganoli pŵer i ranbarthau Lloegr.
“Edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach cadarnhaol a chynhyrchiol wrth imi barhau i gyflwyno’r achos dros degwch a chydraddoldeb i Gymru a’i holl gymunedau.”