Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU
Statement from the Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning: UK Government Industrial Strategy
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i lunio’r strategaeth ddiwydiannol newydd a sicrhau bod Cymru yn allweddol i’r gwaith o’i chyflawni.
"Mae Cymru wedi cyflawni mwy na’r disgwyl erioed. Mae ein cryfderau ym meysydd ynni glân, amddiffyn a gweithgynhyrchu uwch yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau mewn sectorau twf uchel ac i sicrhau bod swyddi o safon yn parhau i dyfu yng Nghymru.
"Ry’n ni’n croesawu'r ymrwymiad i'w gwneud hi'n haws i'r sector preifat fuddsoddi yma, yn ogystal â’r bwriad i dorri costau trydan i weithgynhyrchwyr yn ein sectorau twf.
"Uchelgais clir fel hyn i gyfuno cefnogaeth gan y wladwriaeth â buddsoddiad gan fusnesau yw’r union beth sydd ei angen i ddatgloi twf ar draws ein cymunedau.
"Mae pob un o'r wyth sector twf allweddol – gweithgynhyrchu uwch, ynni glân, y diwydiannau creadigol, amddiffyn, digidol a thechnoleg, gwasanaethau ariannol, gwyddorau bywyd a gwasanaethau busnes proffesiynol – mewn sefyllfa i dyfu yng Nghymru.
"Mae hyn yn ymwneud â chreu swyddi, arloesi a meithrin gwydnwch yn y tymor hir.
"Dyma hanfod llywodraeth sydd o ddifrif am ddyfodol Cymru – un sy'n canolbwyntio ar gyflawni, sydd wedi'i gwreiddio mewn tegwch, ac sy’n uchelgeisiol am yr hyn y gall ein cenedl ei gyflawni."