Dathlu prosiectau llwyddiannus mewn digwyddiad gwledig
Successful projects celebrated at rural event
Mae pedwar o'r prosiectau llwyddiannus niferus i elwa o Raglen Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd wedi derbyn gwobrau am eu llwyddiannau mewn digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Frenhinol.
Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod o fudd i brosiectau ers blynyddoedd lawer a daw i ben yn 2023 ar ôl i'r DU adael yr UE.
Mae digwyddiad Dathlu Cymru Wledig wedi rhoi cyfle i edrych ar lwyddiannau prosiectau, y gwahaniaeth y maent wedi'i wneud i bobl a chymunedau ac edrych i'r dyfodol wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ymagwedd wirioneddol Gymreig at yr economi wledig.
Mae amcanion y CDG wedi cynnwys cynyddu cynhyrchiant, amrywiaeth ac effeithlonrwydd busnesau ffermio, annog arferion rheoli tir cynaliadwy a hyrwyddo twf economaidd gwledig cryf a chynaliadwy.
I gefnogi hyn, mae cynlluniau yng Nghymru wedi cynnig gwahanol fathau o ymyriadau megis cyngor pwrpasol wedi'i deilwra ar gyfer busnesau, gweithgareddau arddangos a phrosiectau cydweithredol, aml-sectoraidd ledled Cymru, a gynlluniwyd i ysgogi arloesedd a newid arferion gweithio ar gyfer y dyfodol.
Llwyddodd Cadwch Gymru'n Daclus yn y categori arloesi ar gyfer sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau sbwriel a Pharthau Di-sbwriel a reolir ac sy'n eiddo i fusnesau, cymunedau ac ysgolion lleol.
Mae syniadau a chynlluniau peilot newydd wedi dod i'r amlwg drwy'r broses o wella amgylcheddau lleol ac ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig.
Mae Dyfodol Cambrian wedi cipio'r wobr yn y categori Cymunedau am ei waith yng Ngheredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin. Mae hyn wedi cynnwys adeiladu a chefnogi hunaniaeth Mynyddoedd Cambria fel cyrchfan drwy gryfhau'r Rhwydwaith Twristiaeth a gweithio o fewn cymunedau lleol a chyda busnesau i adeiladu economi'r ardal.
Enillodd Pennal 2050 wobrau'r adran Tirweddau, Natur a Choedwigaeth am roi cyfrifoldeb i bobl leol nodi a chynllunio camau gweithredu i ymdopi â heriau ar lefel tirwedd. Diolch i gefnogaeth drwy'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy, cydweithio, arbenigedd, syniadau, technoleg a gwyddoniaeth, mae arferion gorau oll wedi'u rhannu ar daith gynhwysol sydd â dyfodol ardal wledig a'i chenedlaethau nesaf yn ganolog iddo.
Enillodd Prosiect Helix y wobr yn y categori Bwyd a Thwristiaeth. Mae'r prosiect wedi cefnogi busnesau bwyd drwy uwchsgilio'r gweithlu, cefnogi busnesau newydd a helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Mae hyn wedi gweld effaith gwerth £215m ar fusnesau bwyd a diod, wedi creu 485 o swyddi ac wedi diogelu mwy na 2,600.
Enillodd Prosiect Helix y wobr gyffredinol hefyd ar draws pob thema am ei llwyddiannau hyd yma.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: "Mae'n briodol iawn wrth i gymorth y Cynllun Datblygu Gwledig ddod i ben ein bod yn dathlu gwaith ac ymdrechion gwych unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyllid hwn i helpu pobl a chymunedau.
"Bu llawer o brosiectau llwyddiannus ac rwyf am longyfarch pob un ohonynt, gan gynnwys y pedwar dderbyniodd wobrau yn nigwyddiad Dathlu Cymru Wledig, am y cyfraniadau pwysig y maent wedi'u gwneud.
"Wrth i ni ddatblygu ymagwedd wirioneddol Gymreig at yr economi wledig wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol ein bod yn dysgu o'r prosiectau hyn ac yn adeiladu arnynt."