‘Ddylen ni byth gymryd gofalwyr di-dâl yn ganiataol’
‘We must never take unpaid carers for granted’
- Cyhoeddi Strategaeth Genedlaethol Newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl heddiw
- Saith maes blaenoriaeth wedi'u llunio ar sail y materion sydd bwysicaf i ofalwyr
- Y nod yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cael gwell cydnabyddiaeth, yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ac yn cael gwell profiad.
Mae gofalwyr di-dâl yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth am y gofal y maen nhw’n ei ddarparu i aelodau o'u teulu a'u cyfeillion, a dylid eu grymuso a'u cefnogi'n well yn eu gwaith hanfodol.
Dyna farn y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell, cyn cyhoeddi Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl heddiw.
Mae'r strategaeth yn adlewyrchu'r hyn y mae gofalwyr di-dâl wedi'i ddweud wrth Lywodraeth Cymru sydd bwysicaf iddyn nhw ac yn nodi saith blaenoriaeth ar gyfer gwella eu profiadau a sicrhau bod gwell cymorth ar gael iddyn nhw.
Mae'n dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus llawn.
Ymhlith y blaenoriaethau mae sicrhau bod anghenion gofalwyr di-dâl yn cael eu nodi ac yr ymatebir iddynt yn gyflymach, a hynny drwy well mynediad at seibiant a gwybodaeth am eu hawliau, gwell cyngor a chymorth, a chefnogaeth i'w hiechyd meddwl a'u llesiant.
Mae'r strategaeth yn cydnabod y pwysau ariannol y mae llawer o ofalwyr di-dâl yn eu hwynebu ac yn cynnwys camau gweithredu i wella dealltwriaeth o ofalwyr di-dâl ac i roi cymorth iddynt i gydbwyso eu rôl ofalu â'u swyddi eu hunain.
Mae'n rhoi sylw penodol i ofalwyr ifanc, gan sicrhau nad yw cyfrifoldebau gofalu yn cael effaith niweidiol ar eu haddysg, eu llesiant na'u cyfleoedd. Nod y strategaeth yw sicrhau bod gofalwyr o bob oed, ac o'n holl gymunedau, yn gallu cael cymorth priodol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Delyth Jewell, mai gofalwyr di-dâl yw ‘asgwrn cefn gofal’ mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
“Bob dydd, maen nhw'n darparu gofal a chymorth hanfodol i berthnasau a ffrindiau, ac yn cydbwyso hyn â'u bywydau eu hunain,” meddai.
“Mae'n nhw'n gwneud cyfraniad rhyfeddol at lesiant ein gwlad, ond ddylen ni byth gymryd hynny'n ganiataol.
“Mae gofalwyr yn ganolog i'n huchelgais ar gyfer system gofal cymdeithasol gryfach a rhaid iddyn nhw gael y gydnabyddiaeth, yr help ymarferol a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw.”
Nod y strategaeth yw gwella mynediad at seibiannau a gwasanaethau gofalwyr, gan helpu gofalwyr di-dâl i ddod o hyd i gymorth priodol yn eu cymunedau. Tynnwyd sylw at werth y math hwn o gymorth lleol yn ystod ymweliad yn gynharach y mis hwn gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol a'r Prif Weinidog â'r Sunflower Café sy'n cael ei gynnal yn Insitiwt Glynebwy. Grŵp cymorth wythnosol, ystyriol o ddementia, i ofalwyr di-dâl yw hwn.
Mae Jeff Perry yn gofalu am ei dad, sy'n 90, oed ac mae wedi bod yn dod i'r Sunflower Café ers blwyddyn a hanner.
“Rwy'n dod i lawr yma am ychydig o hoe gan ei fod yn rhoi seibiant i mi rhag popeth,” meddai.
“Pan fu farw fy mam bedair blynedd yn ôl, fe gymerais i'r rôl o ofalu am fy nhad.
“Pan fyddwch chi wedi bod drwy brofiadau fel gofal lliniarol, mae'n gallu bod yn eitha anodd cyfleu'r teimladau hyn oni bai eich bod chi gyda phobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i chi.
“Dw i wedi cwrdd â phobl yma sy'n mynd drwy'r un peth, ac mae hynny'n werthfawr iawn a dweud y gwir, gan fod gweld diwedd bywyd rhywun annwyl yn gallu bod yn brofiad dwys iawn.”