Newyddion

Canfuwyd 6 eitem

Welsh Government

Gweledigaeth dull ‘dim drws anghywir’ i gael cymorth iechyd meddwl

  • Dull 'dim drws anghywir' i sicrhau bod pobl yn cael help ble bynnag maen nhw'n mynd
  • Dim angen atgyfeiriad, sy’n atal gorfod aros yn hir am gymorth iechyd meddwl
  • Mwy na 300,000 o gysylltiadau â llinell gymorth iechyd meddwl GIG 111 pwyso 2
Welsh Government

Rhaglen ddiogelu newydd i gryfhau'r amddiffyniad i bobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso ledled Cymru

  • Rhaglen ddiogelu newydd i gryfhau'r amddiffyniad i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso
  • Bwrdd Sicrwydd Gweinidogol newydd a hwb gwybodaeth i ganfod arwyddion rhybudd yn gynt a rhannu gwybodaeth yn gyflymach
  • Bydd lleisiau plant, pobl ifanc ac oedolion wrth wraidd y rhaglen.
Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod Delyth Jewell

Unedau newyddenedigol yn cryfhau'r gefnogaeth i leisiau rhieni mewn gofal

  • Mae pob uned newyddenedigol yng Nghymru bellach yn ymgysylltu â Siarter Babanod Bliss, naill ai drwy fod wedi ennill achrediad efydd neu drwy gyflwyno cais i gael eu hasesu.
  • Mae Siarter Babanod Bliss yn golygu bod timau newyddenedigol yn trin rhieni fel partneriaid hanfodol, gan eu cynnwys yn y penderfyniadau am ofal eu babi.
  • Mae adnoddau dwyieithog a chymorth wedi'i deilwra yn cael eu datblygu i helpu pob teulu i gymryd rhan yng ngofal eu babi.
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health Delyth Jewell cropped

Teuluoedd yn cael dull cliriach o godi pryderon pan fydd iechyd mam neu fabi yn gwaethygu mewn wardiau mamolaeth a newyddenedigol

  • Mae cynllun newydd yn darparu llwybr uniongyrchol ar gyfer codi pryderon am iechyd mam neu fabi sy'n gwaethygu.
  • Mae'n cael ei gyflwyno mewn ysbytai ledled Cymru.
  • Mae'n adeiladu ar wiriadau presennol y mae staff eisoes yn eu defnyddio i weld a yw cyflwr claf yn gwaethygu.
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health Delyth Jewell cropped

‘Dylai lleisiau menywod gael eu clywed, a ddylai poen byth gael ei anwybyddu’, dyna addewid Gweinidog Iechyd Menywod cyntaf Cymru

  • Uwchgynhadledd iechyd menywod yn mynd i'r afael â phoen a llais y claf yn GIG Cymru
  • Clinigwyr, ymchwilwyr a menywod â phrofiad byw yn dod at ei gilydd i ysgogi newid
  • Fframwaith newydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn siapio'r Cynllun Iechyd Menywod
Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health Delyth Jewell

Y Dirprwy Weinidog yn nodi ei blaenoriaethau ar gyfer gofal cymdeithasol, iechyd meddwl ac iechyd menywod

  • Datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru a chryfhau trefniadau diogelu.
  • Gwasanaethau iechyd meddwl i symud tuag at gymorth mynediad agored, yr un diwrnod, gyda 21 o safleoedd arddangos eisoes ar y gweill a chynlluniau i’w cyflwyno’n ehangach
  • Bydd yr Uwchgynhadledd Iechyd Menywod y mis hwn yn clywed yn uniongyrchol gan fenywod sydd â phrofiad byw, gyda chamau gweithredu i wella endometriosis, gwasanaethau erthylu a diogelwch mamolaeth