Gweledigaeth dull ‘dim drws anghywir’ i gael cymorth iechyd meddwl

Vision laid out for ‘no wrong door’ approach to mental health support

  • Dull 'dim drws anghywir' i sicrhau bod pobl yn cael help ble bynnag maen nhw'n mynd
  • Dim angen atgyfeiriad, sy’n atal gorfod aros yn hir am gymorth iechyd meddwl
  • Mwy na 300,000 o gysylltiadau â llinell gymorth iechyd meddwl GIG 111 pwyso 2

Dylai pobl allu cael mynediad at gymorth iechyd meddwl pryd bynnag y byddant yn gofyn am help y tro cyntaf, heb fod angen atgyfeiriad arnynt.

Dyna weledigaeth y Gweinidog Iechyd Meddwl Delyth Jewell, wrth iddi nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau mynediad ar yr un diwrnod a dull ‘dim drws anghywir’ i gael cymorth iechyd meddwl.

Wrth siarad yn ystod digwyddiad Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru yn yr Eglwys Norwyaidd i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, pwysleisiodd y dylai pobl allu cael gafael ar gymorth yn gyflym ac yn hawdd ble bynnag y maent yn gofyn amdano.

Mae'r trawsnewidiad hwn ar gyfer cymorth iechyd meddwl yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'r Rhaglen hefyd yn ymrwymo i weithio ar draws Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant, a chael ei harwain gan ddata, ymchwil a lleisiau'r rhai sydd â phrofiad byw.

Mae'r dull ‘mynediad agored’ yn cael ei dreialu ar hyn o bryd drwy nifer o brosiectau arddangos cyn cael ei gyflwyno ymhellach ledled Cymru. Diben y dull hwn yw ymateb i brif bryderon yr unigolion ar y diwrnod y maen nhw’n gofyn am help. Os nodir bod angen cymorth arbenigol arnynt, bydd mynediad di-dor yn cael ei sicrhau i gymorth ar y lefel gywir.

Mae'r model yn adeiladu ar wasanaeth GIG 111 Pwyso 2, sef llinell gymorth ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys sydd wedi cael mwy na 300,000 o gysylltiadau ers iddi gael ei lansio bron i bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl Delyth Jewell: “Ei gwneud hi'n haws i bobl gael help pryd bynnag a lle bynnag y bydd angen help arnyn nhw yw pwrpas y dull Mynediad Agored.

“Rydyn ni'n cefnogi'r model cymorth yr un diwrnod gan ei fod yn cael gwared ar rwystrau diangen, yn lleihau amseroedd aros, ac yn cynnig llwybr syml at wasanaethau i'r rhai a allai fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl.

“Yn bwysicaf oll, mae'n helpu i sicrhau bod pobl yn cael cymorth y tro cyntaf maen nhw’n gofyn am help, yn hytrach nag aros am atgyfeiriad neu nes byddan nhw’n cyrraedd pwynt argyfwng.”

Nodiadau i olygyddion

  • More than 300,000 contacts have been made to the NHS Wales 111 press 2 service since it was first launched.
  • The most common age group to contact the helpline is 18-34, making up 18%, with Mondays the most common day, with more than 15% of contacts
  • Further information about age, gender, location and days of the week of contacts is available here: NHS 111 Wales Press 2: Mental Health Support - NHS Wales Joint Commissioning Committee