Rhaglen ddiogelu newydd i gryfhau'r amddiffyniad i bobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso ledled Cymru
New safeguarding programme to strengthen protection of people at risk of abuse and neglect across Wales
- Rhaglen ddiogelu newydd i gryfhau'r amddiffyniad i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso
- Bwrdd Sicrwydd Gweinidogol newydd a hwb gwybodaeth i ganfod arwyddion rhybudd yn gynt a rhannu gwybodaeth yn gyflymach
- Bydd lleisiau plant, pobl ifanc ac oedolion wrth wraidd y rhaglen.
Bydd pobl sydd mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio yn cael eu hamddiffyn yn well o dan raglen ddiogelu newydd sy'n cael ei lansio ledled Cymru.
Bydd Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel yn darparu un rhaglen genedlaethol ledled Cymru, gan wella arweinyddiaeth, atebolrwydd, gwybodaeth a chysondeb ar draws y system.
Mae'r rhaglen yn ymateb i'r Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, dan arweiniad Jan Pickles OBE. Mae hefyd yn cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau diogelu a sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, oedolion sydd mewn perygl, dioddefwyr a goroeswyr yn helpu i lunio'r gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i'w hamddiffyn.
Mae'r gwelliannau allweddol yn cynnwys:
- Bwrdd Goruchwyliaeth Weinidogol newydd ar gyfer Diogelu i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd cenedlaethol;
- swyddogaeth ddiogelu o fewn yr Hwb Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i wella gwybodaeth, nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg a chefnogi gweithredu cynharach;
- Cynllun Diogelu Cenedlaethol a Chofrestr Risg Genedlaethol i ddarparu blaenoriaethau cliriach a dull mwy cyson ledled Cymru.
Bydd y rhaglen yn cryfhau'r broses o ddysgu o adolygiadau diogelu, arolygiadau, data ac arferion, gan helpu sefydliadau i nodi risgiau'n gynt ac ymateb yn fwy effeithiol pan fydd pryderon yn codi.
Bydd y rhaglen hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol ar gynigion ar gyfer Awdurdod Amddiffyn Oedolion a Phlant i Gymru, ac adrodd gorfodol am achosion o gamdriniaeth.
Dywedodd Delyth Jewell, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod:
"Mae gan bob plentyn ac oedolyn yng Nghymru yr hawl i fod yn ddiogel.
"Mae'r rhaglen hon yn ymwneud ag adeiladu system ddiogelu gryfach i Gymru, un sy'n nodi risgiau'n gynt, yn dysgu o brofiad ac yn sicrhau bod sefydliadau'n cydweithio i amddiffyn pobl rhag niwed.
"Yn bwysicaf oll, bydd y rhaglen hon yn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant, pobl ifanc, oedolion sydd mewn perygl, dioddefwyr a goroeswyr yn helpu i lunio'r gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i'w hamddiffyn."
Nodiadau i olygyddion
- The programme is called Stronger Safeguarding for a Safer Wales and follows the Strengthening Safeguarding Governance Review led by Jan Pickles OBE.
- It will be delivered in phases across this Senedd term.
- A new Ministerial Safeguarding Oversight and Assurance Board will give ministers direct oversight of safeguarding risks across Wales.
- A National Social Care Intelligence Hub will use data to spot emerging risks and patterns of harm, helping the system act before harm happens.
- A National Safeguarding Plan and Risk Register will also be published to ensure priorities are clear and consistent nationwide.