Deputy Minister for Social Care, Mental Health and Women’s Health Delyth Jewell

Y Dirprwy Weinidog yn nodi ei blaenoriaethau ar gyfer gofal cymdeithasol, iechyd meddwl ac iechyd menywod

Deputy Minister sets out priorities for social care, mental health and women's health

  • Datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru a chryfhau trefniadau diogelu.
  • Gwasanaethau iechyd meddwl i symud tuag at gymorth mynediad agored, yr un diwrnod, gyda 21 o safleoedd arddangos eisoes ar y gweill a chynlluniau i’w cyflwyno’n ehangach
  • Bydd yr Uwchgynhadledd Iechyd Menywod y mis hwn yn clywed yn uniongyrchol gan fenywod sydd â phrofiad byw, gyda chamau gweithredu i wella endometriosis, gwasanaethau erthylu a diogelwch mamolaeth

Amlinellodd y Dirprwy Weinidog gynlluniau i wella mynediad at ofal cymdeithasol, darparu cymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod a chryfhau'r Cynllun Iechyd Menywod.

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog ymrwymo i hyrwyddo Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, wedi'i ategu gan yr uchelgais o ddarparu gofal cymdeithasol sydd am ddim pryd a lle bynnag y bo'i angen a chryfhau trefniadau diogelu i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl yn well.

Ymrwymodd y Dirprwy Weinidog i wella cymorth ar gyfer iechyd meddwl,  niwrowahaniaeth ac anableddau dysgu, gan ganolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau cymunedol. Bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn symud i fynediad yr un diwrnod drwy gamau i drawsnewid y gwasanaeth yn sylweddol.

Bydd camau gweithredu yn y dyfodol i fynd i'r afael â blaenoriaethau allweddol gan gynnwys iechyd yr ymennydd, diagnosis cynharach a gwella cymorth yn cael eu nodi mewn Strategaeth Dementia newydd ar gyfer Cymru.

Yn nes ymlaen y mis hwn, bydd Uwchgynhadledd Iechyd Menywod yn clywed gan fenywod sydd â phrofiad byw a chlinigwyr, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â normaleiddio poen. Mae gwaith ar y gweill i wella gwasanaethau endometriosis ac erthyliad, yn ogystal â gwella diogelwch mamolaeth a chefnogaeth i deuluoedd sydd wedi colli babi.

Dywedodd Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod:

“Dw i eisiau helpu i daflu goleuni ar feysydd sydd heb gael y sylw maen nhw'n ei haeddu.  Iechyd meddwl, iechyd menywod - ac ie, y system gofal cymdeithasol sydd heb gael sylw digonol ers cyhyd. Mae'r meysydd hyn yn haeddu mwy o sylw ac amlygrwydd.  Maen nhw'n haeddu llais wrth galon y llywodraeth – a dw i'n addo y byddan nhw'n cael hynny gen i.”