Unedau newyddenedigol yn cryfhau'r gefnogaeth i leisiau rhieni mewn gofal
Neonatal units strengthen support for parents’ voices in care
- Mae pob uned newyddenedigol yng Nghymru bellach yn ymgysylltu â Siarter Babanod Bliss, naill ai drwy fod wedi ennill achrediad efydd neu drwy gyflwyno cais i gael eu hasesu.
- Mae Siarter Babanod Bliss yn golygu bod timau newyddenedigol yn trin rhieni fel partneriaid hanfodol, gan eu cynnwys yn y penderfyniadau am ofal eu babi.
- Mae adnoddau dwyieithog a chymorth wedi'i deilwra yn cael eu datblygu i helpu pob teulu i gymryd rhan yng ngofal eu babi.
Mae pob uned newyddenedigol yng Nghymru bellach yn ymgysylltu â Siarter Babanod Bliss, sy'n rhoi teuluoedd yn ganolog i ofal eu babi.
Bob blwyddyn, mae tua 2,800 o fabanod cynamserol a sâl yng Nghymru angen gofal newyddenedigol. I'w teuluoedd, gall hyn fod yn un o'r profiadau anoddaf maen nhw wedi'i wynebu erioed, sy'n aml yn cynnwys wythnosau neu fisoedd yn yr ysbyty ochr yn ochr â phwysau bywyd bob dydd. Mae dilyn Siarter Babanod Bliss yn golygu bod timau newyddenedigol yn trin rhieni fel partneriaid hanfodol yng ngofal eu babi, gan eu cefnogi i fod yn rhan o benderfyniadau.
Ers i Lywodraeth Cymru ddyfarnu bron i £100,000 i Bliss ym mis Medi 2025 i gynnal rhaglen wella genedlaethol, mae pob uned newyddenedigol yng Nghymru wedi ennill achrediad efydd neu wedi cyflwyno cais i gael eu hasesu. Mae un uned eisoes wedi cyrraedd y lefel arian, gyda thair arall yn paratoi i ddilyn. Mae'r llwyddiannau hyn yn cydnabod ymdrech, ymrwymiad a chydweithrediad timau ar draws Cymru i sicrhau bod teuluoedd yn ganolog i ofal eu babi.
Yn ddiweddar, enillodd yr uned newyddenedigol yn Ysbyty'r Tywysog Siarl achrediad efydd drwy wneud gwelliannau sylweddol i gyfleusterau sy'n lleddfu'r pwysau ar deuluoedd yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd. Mae gan yr uned gadair orwedd wrth bob gwely fel y gall rhieni dreulio amser gyda'u babanod yn gyfforddus, a bydd talebau bwyd yn cael eu cynnig i leddfu ychydig o'r pwysau bob dydd y gallai rhieni eu hwynebu. Mae gan rieni fynediad at gymorth drwy’r dydd, bob dydd.
Mae Bliss yn datblygu adnoddau dwyieithog ac yn gwella mynediad i deuluoedd sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol, gan gynnwys pellter, costau, iaith neu anabledd, fel bod pawb yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, waeth beth fo'u hamgylchiadau.
Bydd cyllid parhaus yn y flwyddyn ariannol hon yn cefnogi unedau i barhau i wneud gwelliannau.
Dywedodd Delyth Jewell, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Menywod:
"Mae pob babi sy’n cael ei eni’n gynnar neu sy’n sâl pan gaiff ei eni yn haeddu’r gofal gorau posibl, ac mae pob teulu’n haeddu cael eu trin gydag urddas a thosturi. Mae'r cynnydd hwn yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd teuluoedd, clinigwyr a byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd. Byddwn yn parhau i wrando ar deuluoedd a chefnogi unedau i adeiladu ar y cynnydd hwn."