Deufis i fynd – dweud eich dweud am ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru
2 months to go – have your say on culture and sport in Wales
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl, sefydliadau, grwpiau cymunedol chwaraeon a diwylliant i ddatblygu strategaeth newydd, uchelgeisiol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru.
Gyda deufis i fynd nes i'r alwad am dystiolaeth ddod i ben, mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan, yn annog unrhyw un yng Nghymru i ddweud eu dweud a chyfrannu eu barn a'u tystiolaeth i helpu i lunio'r strategaeth.
Nod y strategaeth yw datgloi potensial diwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Mae diwylliant a chwaraeon yn chwarae rôl ganolog er budd pobl, cymunedau ac economi Cymru.
Rhan bwysig o'r gwaith hwn yw meithrin dealltwriaeth glir o'r sefyllfa bresennol o ran diwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Bydd data a thystiolaeth gadarn yn ganolog i dargedu cymorth lle bydd yn cael yr effaith fwyaf.
Mae gwaith eisoes ar y gweill ar archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol i lywio buddsoddiad cyfalaf wedi'i dargedu dros dymor y llywodraeth a thu hwnt.
Ochr yn ochr â'r alwad am dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar waith ymchwil ac ymgysylltu presennol yn y sector gyda sesiynau trafod a gweithdai wedi'u targedu. Y nod hefyd yw rhoi strwythurau cynaliadwy ar waith ar gyfer ymgysylltu a chydweithredu parhaus ar gyfer y dyfodol. Bydd clywed gan leisiau o bob rhan o Gymru - nawr, ac wrth i'r Strategaeth gael ei datblygu a'i chyflwyno - yn ganolog i'w llwyddiant.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet Heledd Fychan:
"Gyda deufis i fynd, dwi’n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol diwylliant a chwaraeon yng Nghymru i gymryd y cyfle i leisio eu barn. Nid yw diwylliant a chwaraeon yng Nghymru yn ‘braf i’w cael’ neu’n ddewisol, maent yn greiddiol i’n hunaniaeth fel cenedl.
"Mae'r Llywodraeth hon yn credu yng ngrym diwylliant a chwaraeon i drawsnewid bywydau, i gyfrannu at y weledigaeth o symud tuag at agenda iechyd ataliol i roi ein gwasanaeth iechyd ar sail fwy cynaliadwy, ac oherwydd ein bod yn benderfynol o adeiladu Cymru lle mae creadigrwydd yn ffynnu.
"Mae amser yn gyfyngedig, a dydw i ddim am i unrhyw un sydd eisiau cyfrannu at y strategaeth newydd hon golli eu cyfle i gyfrannu. Dyma’r amser i ddweud eich dweud a helpu i lywio dyfodol diwylliant a chwaraeon ein cenedl."
Mae angen cyflwyno pob ymateb erbyn 18 Rhagfyr 2026.
Chwiliwch am 'Gweledigaeth ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru' ar llyw.cymru am ragor o wybodaeth.