English icon English

Dewch i’n gweld yn y Ffair Aeaf, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig

Come and see us at Winter Fair, says Rural Affairs Minister

Wrth i un o brif ddigwyddiadau calendr cefn gwlad Cymru gael ei gynnal, mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn annog ymwelwyr â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru i alw heibio stondin Llywodraeth Cymru.

Bydd y Gweinidog yn y ffair heddiw (dydd Llun, 28 Tachwedd) a bydd y stondin yn Neuadd De Morgannwg ar agor am y deuddydd.

          Bydd gwybodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Iechyd a Diogelwch ar y Fferm, Llygredd Amaethyddol, ffliw’r adar a llawer o bynciau eraill ar gael, gyda staff wrth law i ateb cwestiynau.

          Bydd y Ffair Aeaf yn gyfle hefyd i drafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gyda chynnal cyfarfod cyntaf y gweithgor sydd wedi’i sefydlu i ystyried ffermwyr ifanc a ffermwyr newydd.  Mae hyn yn dilyn cyfarfod y gweithgor ffermwyr tenant yn gynharach y mis hwn.  

          Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n bwysig ein bod ni’n clywed barn pawb am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a rhaid sicrhau ei fod yn gweithio er lles pawb. Dw i’n falch mai yn y Ffair y bydd y gweithgor ffermwyr ifanc a newydd yn cael ei gyfarfod cyntaf. Mae’n bwysig ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael llif cyson o dalent ac egni newydd i helpu i wneud y diwydiant yn gydnerth.

          “Os ydych chi’n ymweld â’r Ffair, galwch heibio stondin Llywodraeth Cymru lle bydd staff yn barod i’ch helpu â’ch ymholiadau.

          “Rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at y Ffair Aeaf eleni a fydd unwaith eto yn llwyfan i’r gorau o fyd ffermio a bywyd cefn gwlad yng Nghymru.”