English icon English

Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn cadarnhau cyfanswm o dros £100m ar gyfer diogelwch tomenni glo yn nhymor y Senedd hon

Deputy First Minister confirms total of over £100m for coal tip safety this Senedd term

Bydd mwy na £100m yn cael ei fuddsoddi mewn diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon.

Bydd y cyfanswm, a gadarnhawyd heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ehangu'r grant diogelwch tomenni glo i gyflymu gwaith ar domenni nas defnyddir ledled y wlad.

Mae'n cynnwys y £65m sydd eisoes wedi'i ymrwymo rhwng 2021 a 2025, y £25m y gwnaethom ofyn amdano a'i gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2025-26 fel rhan o gyllideb yr hydref yn gynharach eleni, ynghyd â £12m ychwanegol a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft heddiw.

Daw'r cadarnhad cyllid yn dilyn cyhoeddiad ddoe am gyflwyno Bil newydd a fyddai, pe bai'n cael ei basio, yn golygu creu sefydliad sydd â chyfrifoldeb am drefn newydd i reoli tomenni nas defnyddir yng Nghymru.

Mae'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) yn cynnig sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir i Gymru.

Y Bil yw'r cyntaf o'i fath yn y DU ac rydym ar flaen y gad yn fyd-eang wrth ddatblygu system gadarn ar gyfer diogelwch tomenni nas defnyddir.

Byddai'r awdurdod newydd yn dod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a fyddai'n gyfrifol am asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.  

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn cymunedau glofaol ledled Cymru yn ddiogel yn eu cartrefi.

"Mae storm Bert yn ddiweddar yn rhybudd amlwg arall eto o'r difrod y gall glawiad ei achosi, a pha mor agored i niwed y gall tomenni nas defnyddir fod i dywydd eithafol.

"Rwy'n gwybod bod llawer o bobl sy'n byw mewn cymunedau glofaol ledled Cymru yn bryderus, ac felly mae'n rhaid inni fod yn barod i addasu ac ymateb.

"Dyna'n union pam rydyn ni'n buddsoddi £100m mewn diogelwch tomenni glo yn nhymor y Senedd hon ac yn cyflwyno'r Bil hwn - y cyntaf o'i fath yn y DU: i atal tomenni glo a thomenni nad ydynt yn rhai glo rhag bygwth lles pobl.

"Mae'n cyflawni ein haddewid i gyflwyno deddfwriaeth i ddelio â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio a sicrhau diogelwch tomenni glo. A bydd yn helpu i sicrhau nad yw camgymeriadau trasig y gorffennol yn cael eu hailadrodd."

DIWEDD