English icon English

Dirprwy Brif Weinidog yn lansio Wythnos Hinsawdd fwyaf Cymru hyd yma

Deputy First Minister launches the biggest Wales Climate Week yet

 Sut y gall Cymru addasu i hinsawdd sy'n newid?

Dyma fydd ffocws Wythnos Hinsawdd Cymru - y fwyaf hyd yma - gyda chynhadledd rithwir bum niwrnod, mwy na 70 o sgyrsiau hinsawdd a digwyddiadau ymylol cyffrous yn digwydd ledled y wlad.

Lansiwyd Wythnos Hinsawdd Cymru yn swyddogol heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb dros newid hinsawdd, Huw Irranca-Davies. Bydd yr wythnos yn dechrau dydd Llun, Tachwedd 11 pan fydd arweinwyr y byd yn dechrau cyrraedd Baku ar gyfer COP 29.

"Mae newid hinsawdd yn digwydd nawr ac rydyn ni eisoes yn teimlo'r effeithiau," meddai’r Dirprwy Brif Weinidog

"Yma yng Nghymru, mae'n effeithio ar ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein seilwaith a natur, ac rydyn ni'n gwybod mai dim ond cynyddu fydd y newidiadau hyn dros y blynyddoedd nesaf - hyd yn oed wrth i ni weithio i fynd i'r afael ag achosion newid hinsawdd drwy leihau allyriadau.

"Mae'n rhaid cofio - fydd effeithiau newid hinsawdd ddim yn cael eu teimlo'n gyfartal gan bawb. Y bobl a'r cymunedau mwyaf bregus sydd yn y perygl mwyaf.

"Wedi dweud hynny, mae newid yn cynnig rhai cyfleoedd hefyd, o weithgareddau awyr agored newydd a swyddi ym maes seilwaith adeiladu, i fathau newydd o gnydau a chynigion twristiaeth gwahanol.  Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod unrhyw fuddion yn cael eu rhannu'n deg rhyngom.

"Rwy'n edrych ymlaen at wythnos o ddysgu, digwyddiadau a thrafodaethau a fydd yn allweddol i lunio a chyflwyno llawer o'r atebion y bydd eu hangen wrth wireddu'r weledigaeth ar gyfer Cymru wyrddach, gryfach, decach."

Bydd y gynhadledd rithwir bum diwrnod yn cael ei rhannu'n themâu sy'n cwmpasu meysydd sy'n amrywio o dir, amaethyddiaeth, y môr, pysgodfeydd a natur i seilwaith, busnes, iechyd a chymunedau.

Bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys digwyddiadau ymylol cyffrous gan gynnwys sioe foduron cerbydau trydan Evolution Cymru a rali ddeuddydd lle bydd mwy na 25 o gerbydau trydan yn teithio 500 milltir drwy rai o fannau harddaf Cymru.

Yn ogystal, bydd miloedd o drafodaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru diolch i Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i gefnogi sefydliadau sydd â chysylltiadau cymunedol cryf i gynnal digwyddiadau o gwmpas yr wythnos.

Mae'r gronfa yn cefnogi mwy na 70 o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru gan gynnwys un ym Mosg Sgeti o'r enw 'Adeiladu ein Dyfodol: Teuluoedd, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn o blaid Gweithredu ar Newid Hinsawdd'.

Ar ymweliad â Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti yr wythnos diwethaf, cafodd y Dirprwy Brif Weinidog ragolwg ar y digwyddiad, sydd â'r nod o uno pobl o wahanol genedlaethau a chefndiroedd diwylliannol i fynd i'r afael â heriau’r hinsawdd trwy weithgareddau rhyngweithiol, ymarferol.

Mae 'Adeiladu ein Dyfodol' yn cynnwys digwyddiadau ar gyfer pob grŵp oedran, gan gynnwys sesiynau chwarae synhwyraidd ar thema'r amgylchedd i rieni a phlant bach, gemau, prosiectau celf ac adrodd straeon ar thema hinsawdd i blant, a thrafodaethau bord gron ar drafodaethau hinsawdd i'r rhai sy'n 50 oed neu'n hŷn.

Mae Mosg Sgeti yn gwasanaethu mwy na 600 o aelodau yn Abertawe ac yn croesawu cymuned fywiog ac amrywiol, gydag aelodau o Bangladesh, Pacistan, India, Sri Lanka, Irac, Cwrdistan, yr Aifft, Syria, Nigeria, Sudan, Somalia, Yemen, Bosnia, Kazakhstan, Twrci, Palesteina, Algeria, Morocco, Tunisia a Chymru.

Dywedodd Dr Mahaboob Basha BEM, Arweinydd Cymunedol ac Ieuenctid ym Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti: "Rydym yn gyffrous i gynnal y digwyddiad Sgyrsiau Hinsawdd hwn fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, a chroesawu'r Dirprwy Brif Weinidog i ymgysylltu â'n cymuned amrywiol yma ym Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti.

"Gyda gweithgareddau sy'n amrywio o brosiectau celf hinsawdd plant i drafodaethau gyda phobl hŷn, mae ein digwyddiad yn dwyn teuluoedd, ieuenctid a phobl hŷn ynghyd i leisio eu safbwyntiau ar newid yn yr hinsawdd a syniadau ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy.

"O yrwyr tacsis a pherchnogion tecawê i ymchwilwyr prifysgol, mae aelodau ein cymuned yn ymwneud llawer â mynd i'r afael â materion hinsawdd, gan ddangos sut mae Wythnos Hinsawdd Cymru wedi llwyddo i gyrraedd ac ymgysylltu â'n cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol."

Wrth siarad ar ymweliad â'r Mosg a'r Ganolfan Gymunedol yr wythnos diwethaf, ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca Davies: "Rydyn ni eisiau cefnogi pobl ledled Cymru i weithredu a dyna pam ein bod wedi lansio'r Gronfa Sgyrsiau Hinsawdd.

"Mae newid hinsawdd yn cyflwyno llawer o heriau anodd a chymhleth i bob un ohonom ac mae wedi bod yn wych dod yma heddiw i gwrdd â phobl sy'n ymgynnull i drafod a rhannu syniadau am sut y gallant wneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn cael eu cynnal drwy'r wythnos ledled Cymru, sy’n golygu mai hon yw’r Sgwrs Hinsawdd fwyaf hyd yma ac rwy'n edrych ymlaen at ddysgu mwy drwy gydol yr wythnos."

Gallwch gofrestru ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru yma.