Diweddariad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wrth i'r ymateb cydlunio gael ei gyhoeddi.
Update on Sustainable Farming scheme as co-design response published
Mae'r ymateb cydlunio i gynigion amlinellol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi rhoi adborth gwerthfawr, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi dweud heddiw.
Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi'r ddau adroddiad cydlunio, sy'n cynnwys barn ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru.
Y cam nesaf yn y broses fydd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a gynhelir yn hwyrach eleni. Ni wneir unrhyw benderfyniadau ynghylch dyluniad terfynol y cynllun nes bod yr ymgynghoriad hwn wedi cael ei gwblhau.
Dywedodd y Gweinidog: Yr haf diwethaf cyhoeddais i gynigion amlinellol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Roedd y cynigion hyn yn sail i gyfnod o gydlunio â ffermwyr a rhanddeiliaid, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu cyfraniad. Roedd y cynigion yn lefel uchel fel y gallai ffermwyr gyfrannu eu profiad helaeth a'u syniadau.
"Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fydd ein prif fecanwaith i helpu ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon a gweithredu er budd natur, wrth hefyd barhau i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy drwy fusnesau amaethyddol cadarn. Mae hefyd yn cydnabod y rôl allweddol mae ffermwyr yn eu chwarae fel ceidwaid y Gymraeg a threftadaeth a diwylliant Cymru.
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw yr adroddiadau cydlunio, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth i'r rhain sy'n amlinellu syniadau ynghylch y ffordd ymlaen yng ngoleuni'r adborth a dderbyniwyd. Bydd hyn i gyd nawr yn bwydo i'r ymgynghoriad a gynhelir yn hwyrach eleni.
"Dyma'r tro cyntaf rydym wedi gallu defnyddio mewnbwn gan ffermwyr yn y ffordd hon, wrth ddylunio cynllun, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod ymhellach y cynigion â ffermwyr yn Sioe Frenhinol Cymru a sioeau eraill yr haf hwn. Bydd yr adborth a'r cydweithredu hyd yma yn ein helpu i gyflwyno cynllun uchelgeisiol a hygyrch ar gyfer ffermwyr gweithredol."
Mae materion i'w hystyried yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r gwaith cydlunio'n cynnwys:
- Roedd yr adborth yn awgrymu bod angen amser ar ffermwyr i ddeall a rhoi'r newidiadau ar waith. Gellir ystyried dull fesul cam. Byddai hyn yn cynnwys cyflwyno'r Camau Gwaith Sylfaenol pan fydd y cynllun yn agor yn 2025, gyda'r Camau Gwaith Dewisol a Chydweithredol yn cael eu cyflwyno yn ystod y flynyddoedd wedyn.
- Cynigiwyd y byddai angen adolygiad llinell sylfaen o gynefinoedd cyn ymuno â'r cynllun. Byddwn yn ystyried sut i raddio hyn ar gyfer yr Haen Sylfaenol drwy ddefnyddio wybodaeth sydd gennym eisoes, i nodi o bell gynefinoedd ar ffermydd drwy broses gyfarwydd RPW Ar-Lein.
- Archwilir i gyfleoedd i wella ein gallu i nodi cynefinoedd a choetir presennol sy'n cael eu rheoli'n dda, y tu hwnt i'r safon gofynnol a gynigir.
- Yn seiliedig ar yr adborth, mae rhagor o fanylion wedi cael ei rhoi am y senarios pan na fydd modd plannu coed. Mae newidiadau'n cael eu harchwilio fel na fydd y 10% y mae’n ofynnol ei blannu yn seiliedig ar y daliad cyfan, ond ar 10% o'r arwynebedd sydd ar ôl pan fydd ardaloedd anaddas wedi cael eu nodi. Byddai'r 10% yn cynnwys gorchudd coed sydd eisoes yn bodoli.
Disgwylir i'r ymgynghoriad terfynol ar y cynllun gael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni, a bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn 2024 a'i weithredu yn 2025.