English icon English

Diweddariad ar yr adolygiad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg

Update on the review into peer-on-peer sexual harassment in education settings

Ym mis Mehefin 2021, gofynnodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i Estyn adolygu’r diwylliant a’r prosesau mewn ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd annibynnol i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc.

Bydd yr adolygiad yn ystyried achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a’r modd y mae diwylliant diogelu ysgolion yn annog a grymuso disgyblion i wrthwynebu eu cyfoedion a rhoi gwybod am bob math o aflonyddu rhywiol.

Bydd arolygwyr yn ymweld ag ysgolion ddiwedd mis Medi a dechrau mis Hydref, gan gyhoeddi adroddiad ym mis Rhagfyr 2021.

Hefyd, bydd arolygwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cyfrannu at ymweliadau ag ysgolion annibynnol â darpariaeth breswyl.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae unrhyw fath o aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol, ac ni ddylid ei oddef.  Mae’n parhau i fod yn flaenoriaeth ar draws Llywodraeth Cymru fod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei gefnogi, a’u bod yn teimlo y gallan nhw roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt.

“Bydd arolygwyr Estyn yn ymweld ag ysgolion yn ystod tymor yr hydref, a byddwn ni’n aros am y casgliadau a amlinellir yn eu hadolygiad.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Bydd canlyniad yr adolygiad yn arwain ein gwaith wrth i ni geisio gwneud mwy i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel - yn cynnwys ychwanegiad statudol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb at y Cwricwlwm newydd i Gymru, o 2022.”

Nodau’r adolygiad

Ystyried:

  • achosion o aflonyddu rhywiol[1] rhwng cyfoedion mewn ysgolion yng Nghymru
  • sut mae diwylliannau diogelu ysgolion yn annog a grymuso disgyblion i wrthwynebu eu cyfoedion a rhoi gwybod am bob math o aflonyddu rhywiol[2]
  • canllawiau a chymorth presennol ar gyfer ysgolion ac asiantaethau perthnasol eraill sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc
  • arfer effeithiol a welir gan arolygwyr yn ystod ymweliadau i helpu ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd – yn enwedig ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Sail y dystiolaeth:

  • Ymweliadau â sampl gynrychioliadol o ysgolion uwchradd ac ysgolion preswyl annibynnol ledled Cymru. Ni fydd yr ysgolion hyn yn cael eu henwi yn yr adroddiad.  Bydd arolygwyr yn cyfarfod â phenaethiaid, uwch arweinwyr, athrawon, staff cymorth a grwpiau ffocws disgyblion, ac yn gofyn i ddisgyblion lenwi holiadur byr.
  • Cyfweliadau ag asiantaethau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc / yn cefnogi ysgolion.
  • Adolygiad cynhwysfawr o ymchwil, arweiniad, pecynnau cymorth sydd ar gael i gefnogi dioddefwyr, cyflawnwyr a staff ysgolion.

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

[1] mae cam-drin rhywiol yn digwydd rhwng plant o oedran neu gam datblygu tebyg.  Gall ddigwydd rhwng unrhyw nifer o blant, a gall effeithio ar unrhyw grŵp oedran (Adran Addysg (DfE), 2021a).  Gall fod yn niweidiol i’r plant sy’n ei arddangos, yn ogystal â’r rhai sy’n ei brofi.

[2] ymddygiad dieisiau parhaus o natur rywiol gan blentyn tuag at blentyn arall sy’n gallu digwydd ar-lein ac oddi ar-lein.  Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o: darfu ar urddas plentyn, a/neu wneud iddo deimlo dan fygythiad, yn israddol neu’n llawn cywilydd a/neu greu amgylchedd gelyniaethus, ymosodol a rhywioledig. (Adran Addysg, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Sexual violence and sexual harassment between children in schools and colleges: advice for governing bodies, proprietors, headteachers, principals, senior leadership teams and designated safeguarding leads)