English icon English

Diwrnod Digartrefedd y Byd: Gweithio gyda'n gilydd i roi terfyn ar ddigartrefedd a'i atal

World Homelessness Day: ‘working collaboratively’ to end and prevent homelessness

“Diwrnod Digartrefedd y Byd hwn, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhwng awdurdodau lleol, partneriaid adeiladu a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.”

I nodi’r diwrnod, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â Blue Dragon Court yng Nghaerdydd i gyfarfod â staff a chlywed am eu gwaith a’r cymorth y maent yn ei ddarparu i helpu pobl i symud ymlaen o’r profiad o ddigartrefedd.

Mae'r cynllun yn rhoi help mawr ei angen i bobl dros 55 oed sydd wedi'u nodi yn strategaeth pobl hŷn y Cyngor.

Mae'r cynllun wedi cael dros £4m o gyllid trwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu gan Wales & West mewn cydweithrediad â Hale Construction ac Awdurdod Lleol Caerdydd.

Mae'n darparu 49 o gartrefi newydd, cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely. Gellir addasu'r cartrefi hefyd a'u teilwra i anghenion yr unigolyn, er mwyn i bobl allu byw'n fwy annibynnol.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen: "Roedd hi'n hyfryd cwrdd â'r staff ymroddedig Blue Dragon Court y mae eu hymdrechion yn cyfrannu at ein huchelgais i ddod â phob math o ddigartrefedd yng Nghymru i ben.

"Mae'r adborth i'r cynllun hyd yn hyn wedi bod yn bositif, gyda'r rhan fwyaf o denantiaid yn llwyddo i dorri'n rhydd o'r cylch digartrefedd. Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â'r cynllun am y canlyniadau gwych rydyn ni'n eu gweld.

"Rydym wedi gosod targed uchelgeisiol i ddod â digartrefedd yng Nghymru i ben, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn dal ati i gydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid i sicrhau bod digartrefedd yn beth prin ac yn beth byr nad yw'n digwydd yr eildro."

Diwrnod Digartrefedd y Byd diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru a oedd yn nodi’r cynlluniau ar gyfer diwygio deddfwriaeth a newid trawsnewidiol ar draws y sector digartrefedd a thai.

Mae'r llywodraeth yn parhau'n ymroddedig i'r nod o ddod â digartrefedd i ben ac mae wedi buddsoddi bron i £220m i atal digartrefedd ac i helpu pobl ddigartref eleni.

DIWEDD