English icon English

Diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i ffynnu

Welsh food and drink industry continues to succeed

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i fynd o nerth i nerth wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod trosiant cadwyni cyflenwi'r sector wedi cynyddu i £23 biliwn yn 2021.

Dyma gynnydd o 2.9% o'r trosiant o £22.4 biliwn yn 2020.

Gwelwyd twf cadarn iawn yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, yn 2021 gyda throsiant yn cynyddu 10.2% o £4.9bn i £5.4bn.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y newyddion a ddatgelwyd yn gynharach eleni bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i helpu busnesau yn y sector drwy amryfal gynlluniau cymorth sy'n darparu mewnwelediad a gwybodaeth am y farchnad, buddsoddi, cefnogaeth dechnegol, cefnogaeth allforio a phwyslais cryf ar rwydweithio busnes.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae'r ffigyrau yma'n dangos ymrwymiad ac awydd busnesau bwyd a diod o Gymru i lwyddo, er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd maen nhw'n ei hwynebu.

"Rwy'n falch iawn o'r gwytnwch a'r mentergarwch y mae busnesau yn eu dangos wrth adfer ar ôl y pandemig a goresgyn heriau lluosog yn y gadwyn gyflenwi.

"Mae busnesau arloesol Cymru yn arwain o fewn y sector, ac mae’r ffaith eu bod yn ennill gwobrau’n gyson yn tystio i hyn.

"Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd yn hollbwysig a bydd hyn yn parhau wrth i ni helpu busnes i gyflawni hyd eithaf eu gallu."