Dros £1.6m o hwb ariannol i brosiectau cymunedol yn y de
Over £1.6m funding boost for community projects in south Wales
Mae Eglwys Gymunedol Oasis ym Mhenywaun, Academi Cyfryngau Cymru yng Nghaerdydd a Chymdeithas Gymunedol a Chwaraeon Ystradowen ymhlith y prosiectau i dderbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, cynllun grant cyfalaf sy'n helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud gwelliannau i gyfleusterau cymunedol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd Academi Cyfryngau Cymru yn derbyn £300,000 tuag at brynu a gwella adeilad sy'n cael ei rentu ar hyn o bryd. Mae'r grŵp yn gweithio'n agos gyda Choleg Caerdydd a'r Fro ac yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt yn gyfforddus yn dysgu mewn ffordd draddodiadol. Maent yn cynnig BTECs mewn dylunio gemau, gwneud ffilmiau ac animeiddio. Maen nhw hefyd yn cynnwys pobl ifanc drwy ddefnyddio gweithgareddau fel creu podlediadau, sesiynau DJ a cherddoriaeth.
Bydd Eglwys Gymunedol Oasis ym Mhenywaun yn derbyn £256,445 i ddatblygu pantri bwyd sy'n cefnogi tua 50 o deuluoedd yr wythnos. Mae'r cyfleuster hefyd yn cynnig banc dodrefn a nwyddau cartref ac yn cynnal sesiynau cwnsela ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau.
Bydd Cymdeithas Gymunedol a Chwaraeon Ystradowen yn derbyn £94,059 tuag at sicrhau cynaliadwyedd ynni neuadd y pentref am y 30 mlynedd nesaf - gan gynnwys inswleiddio'r to, pwmp gwres a phaneli solar. Hefyd ym Mro Morgannwg, derbyniodd With Music in Mind £25,000 tuag at wella hygyrchedd ac effeithlonrwydd ynni yn eu hadeilad.
Bydd Ambiwlans Sant Ioan yn elwa ar £25,000 tuag at adnewyddu Neuadd Tredegar i gynnig mwy o gyfleoedd gwirfoddoli. Hefyd ym Mlaenau Gwent, bydd Kidz R Us yn derbyn £12,000 tuag at atgyweirio to eu cyfleuster ieuenctid.
Yng Nghaerffili, bydd Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru yn derbyn £100,000 tuag at brynu adeilad i ddarparu ardal fwy ar gyfer pantri cymunedol ac ystafell gyfarfod. Bydd Eglwys Fethodistaidd Crosskeys yn defnyddio £21,792 tuag at waith adnewyddu, tra bod Grŵp Adfywio Deri yn derbyn £8,000 tuag at atgyweirio adeilad eu canolfan gymunedol. Mae Libanus Lifestyle, sefydliad cymunedol wedi derbyn £25,000 i greu gofod aml-swyddogaethol yn atig eu hadeilad a bydd £20,000 yn helpu River Church Wales i greu gardd gymunedol.
Bydd Eglwys Sant Cadog yng Nghaerllion yn derbyn £300,000 i wneud eu heglwys yn fwy hygyrch i grwpiau cymunedol, gan greu man croesawgar a chynnes gydag ardaloedd preifat llai. Hefyd yng Nghasnewydd, mae Eglwys y Bedyddwyr Liswerry wedi derbyn £25,000 i wella eu system sain a'u technoleg weledol.
Yn Nhorfaen, bydd £10,000 ychwanegol ar ben y £229,000 a ddyfarnwyd yn flaenorol yn helpu clwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir i adeiladu cyfleuster ochr yn ochr ag adeilad y clwb gyda thoiledau a chyfleusterau hamdden, cyfarfod ac arlwyo.
Bydd Cymdeithas Gymunedol Coytrahen ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £33,153 yn ychwanegol i drosi ystafelloedd chwaraeon segur yn ardaloedd hyfforddi a gweithgareddau. Maen nhw eisoes wedi derbyn £117,000.
Bydd Rogiet Community Junction yn elwa ar £300,000 tuag at adeiladu siop gymunedol a chaffi newydd, gyda chegin addysgu a gardd gymunedol yn y pentref yn Sir Fynwy. Bydd Neuadd Bentref Mathern a'r Cylch yn derbyn £14,000 i osod cegin newydd a deunydd inswleiddio wal geudod.
Yng Nghaerdydd, dyfarnwyd £25,000 i Mentoring for All i wella eu gardd, tra bydd NoFit State Circus yn derbyn £25,000 i osod lifft cadair olwyn a phaneli solar yn eu hadeilad. Bydd Krishna Cymru yn defnyddio cyllid o £50,000 ar ben £250,000 a ddyfarnwyd yn flaenorol i wneud eu hadeilad yn safle treftadaeth ddiwylliannol ac yn ganolfan gymunedol llesiant.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, Rebecca Evans: "Mae'r rhai sy'n derbyn cefnogaeth gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn darparu gwasanaeth pwysig i'w cymunedau lleol. Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol i gefnogi sefydliadau i wella eu cyfleusterau fel y gall pobl leol elwa ohonynt."
Nodiadau i olygyddion
Photo must be credited to Bradley Lever, The Content Creators