English icon English
Meeting-10

Dull newydd arloesol o adolygu achosion o lofruddiaeth a chamdriniaeth

‘Ground-breaking’ new way to review murder and abuse cases in Wales

Bydd proses newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar gyfer adolygiadau yn dilyn marwolaeth neu gamdriniaeth, gan dorri tir newydd yn y Deyrnas Unedig. Y nod yw helpu i leihau trawma i deuluoedd, atal achosion tebyg a diogelu pobl eraill yn y dyfodol.

Bydd yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cyfuno'r holl adolygiadau diogelu mewn un broses y bydd pawb yng Nghymru yn ei dilyn.

Mae adolygiad diogelu yn digwydd ar ôl digwyddiad difrifol o gam-drin neu esgeuluso plentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg, a hynny'n achosi niwed i'r unigolyn neu'n arwain at ei farwolaeth. 

O'r blaen, gallai hyn fod wedi golygu cynnal sawl adolygiad dros gyfnod hir gyda'r teulu dan sylw a gwahanol weithwyr proffesiynol, a fyddai'n asesu a ellid bod wedi gwneud rhywbeth yn wahanol i atal y niwed.

Byddai hyn yn aml yn feichus ac yn drawmatig i unigolion a fyddai'n gorfod ail-fyw'r digwyddiad difrifol sawl gwaith.

Bydd yr Adolygiad Sengl yn:

  • Cael gwared ar yr angen i deuluoedd gymryd rhan mewn sawl adolygiad, gan leihau'r trawma iddynt,
  • Helpu gweithwyr proffesiynol i ddysgu o argymhellion a gweithredu arnynt yn gyflymach,
  • Gwella'r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu, a helpu i atal niwed a thrasiedïau yn y dyfodol.

Bydd yr holl adroddiadau gorffenedig yn cael eu storio yn Storfa Ddiogelu Cymru – system ganolog a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i gael gweld gwybodaeth am achosion yn y gorffennol a dysgu oddi wrthynt, er mwyn helpu i atal digwyddiadau difrifol tebyg yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

"Rwy'n falch o lansio'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl arloesol ar gyfer Cymru.

"Ni yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu'r dull arloesol hwn o ymdrin ag adolygiadau diogelu, a fydd yn sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol ddysgu o achosion yn y gorffennol yn gyflym ac yn effeithiol i atal niwed yn y dyfodol a lleihau trawma pellach i ddioddefwyr a theuluoedd.

"Mae'r Adolygiad Sengl yn torri tir newydd ac yn cael ei ystyried yn esiampl i eraill ei ddilyn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol - mae'n enghraifft o lwyddo i gyflawni newid drwy gydweithio er lles pawb."