English icon English

Dweud eich dweud ar newidiadau arfaethedig i symudiadau da byw

Have your say on proposed livestock movement changes

Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn am farn ar gynlluniau i newid sut y caiff da byw eu hadnabod, eu cofrestru a sut y dylid adrodd ar eu symudiadau.

Mae’r ymgynghoriad, sy’n rhedeg tan 2 Ionawr, yn ymwneud â phrosesau ar gyfer defaid, geifr, gwartheg a moch ynghyd â’r bwriad i weithredu Dyfeisiau Adnabod Electronig Buchol.

Byddai’r newidiadau y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu eu rhoi ar waith yn golygu y byddai’n orfodol adrodd ar symudiadau cyfan yr holl dda byw a rhannu gwybodaeth am eu teithiau. Bydd hyn yn helpu’r diwydiant ffermio i wella’r broses o reoli ffermydd a helpu i reoli clefydau.

Mae hefyd yn cynnig adrodd yn wirfoddol ar symudiadau ymlaen llaw a fyddai’n cael eu cofnodi’n electronig cyn i’r anifail adael y fferm. Gallai hyn o bosibl ein galluogi i gael gwared ar ffurflenni papur ar gyfer symudiadau defaid.

Byddai hefyd ofyniad gorfodol i Ganolfannau Cofnodi Canolog, megis marchnadoedd a lladd-dai, ddarllen tagiau Dyfeisiau Adnabod Electronig (EID) ac adrodd ar symudiadau’r holl dda byw yr un diwrnod.

Mae addasiadau pellach yn cynnwys pasbort gwartheg Cymreig newydd a chael gwared ar gofrestru ac adrodd ar symudiadau gwartheg ar ffurf papur.

Yn ogystal, yn 2023 mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno dyfeisiau adnabod electronig ar gyfer gwartheg. Byddai hyn yn golygu y byddai angen gosod dau dag, gydag un ohonynt o leiaf yn dag EID, ar bob llo newydd sy’n cael ei eni ar ôl y dyddiad lansio cytunedig.

Bydd cofrestriadau buches a diadell ar-lein a phroses gylchol ddynodedig ar gyfer symudiadau i ac o faes sioe i leihau nifer yr adroddiadau yn cael eu cyflwyno hefyd.

Maen nhw hefyd yn ceisio barn ar opsiynau ar gyfer adnabod moch yn y dyfodol yn ogystal â chofrestriad blynyddol daliadau a stocrestr flynyddol o foch a gedwir yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Bydd cyflwyno’r newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n diwydiant, gan leihau baich rheoleiddiol lle y bo hynny’n bosibl a gwneud defnydd llawn o dechnolegau digidol i foderneiddio ein prosesau. Byddant hefyd yn sicrhau bod ein diwydiant yn gydnerth ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

“Mae datblygiad EIDCymru, y gwasanaeth cofnodi symudiadau ar-lein, yn system amlrywogaeth Gymreig, ynghyd â dyfeisiau adnabod electronig, yn gyfle i ddiffinio hunaniaeth Cymru ac i wella ein henw da o ran sicrhau safonau uchel ym maes iechyd a lles anifeiliaid.

“Mae ymatebion i’r ymgynghoriad yn bwysig iawn ac rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i leisio eu barn.”

Mae’r holl wybodaeth am yr ymgynghoriad a sut y gall pobl rannu eu barn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/newidiadau-i-drefniadau-adnabod-cofrestru-ac-adrodd-ar-symudiadau-da-byw