
Dyfodol disglair i bêl-droed menywod yng Nghymru diolch i gyllid o £1 miliwn
£1million to secure game-changing Euros legacy
Mae cronfa gymorth gwerth £1 miliwn wedi cael ei lansio cyn i Dîm Pêl-droed Menywod Cymru gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ewrop am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.
Ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, bydd Tîm Menywod Pêl-droed Cymru yn creu hanes pan fyddan nhw'n chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth Euro UEFA 2025 yn y Swistir.
Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â sefydliadau partner, wedi sefydlu Cronfa Gymorth i Bartneriaid Euro 2025 i fanteisio ar y cyfle hwn i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol a chynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd y gronfa'n darparu grantiau i sefydliadau ar draws y sectorau diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau.
Gallai prosiectau gynnwys:
- Cyfleoedd i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol
- Mentrau i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn chwaraeon
- Digwyddiadau dathlu ar gyfer cefnogwyr ledled Cymru, Ewrop a'r byd
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant:
"Mae menywod Cymru yn cyrraedd Euro 2025 yn ddigwyddiad hanesyddol, ac mae'n darparu cyfle i adeiladu ar y diddordeb cynyddol ym mhêl-droed menywod a merched ym mhob cwr o Gymru. Rydyn ni'n ymrwymo'r £1 miliwn hwn i roi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar draws ein cymunedau, ac i arddangos Cymru ar lwyfan byd-eang.
"Drwy ddod â phartneriaid ynghyd o sawl sector, rydyn ni'n gweithio ar y cyd un unol â'r egwyddor 'Gorau Chwarae, Cyd Chwarae' i sicrhau gwaddol parhaol o'r twrnamaint hwn. Bydd y gronfa hon yn defnyddio arbenigedd amhrisiadwy amrediad o sefydliadau i gefnogi a gwella ein rhaglen weithgareddau sydd eisoes wedi cael ei chynllunio, gan ddangos ein bod ni fel gwlad ac fel Tîm Cymru, yn gryfach gyda'n gilydd."
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru:
"Mae tîm pêl-droed menywod cymru yn cyrraedd Euro 2025 yr haf hwn yn creu cyfleoedd enfawr, nid yn unig i'r tîm ond i'n cenedl gyfan. Mae'r tîm yn rhoi Cymru ar lwyfan byd-eang, ac o ganlyniad mae gennyn ni'r potensial i ddod at ein gilydd i ddathlu, herio ystrydebau negyddol ynghylch rhywedd a chynyddu nifer y bobl sy'n chwarae pêl-droed ar bob lefel.
“Hoffen ni i bawb ledled Cymru deimlo eu bod yn rhan o'r achlysur rhyfeddol hwn, waeth ble maen nhw, a bydd y gronfa hon yn helpu i wireddu'r weledigaeth honno. Rydyn ni'n annog sefydliadau bach a mawr i feddwl sut y gallan nhw fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn a chyflwyno eu syniadau ar gyfer dathlu Cymru yr haf hwn."
Dylid cyflwyno datganiadau cychwynnol o ddiddordeb erbyn dydd Gwener 7 Mawrth. Bydd y penderfyniadau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn dydd Gwener 18 Ebrill.
Nodiadau i olygyddion
I gael manylion llawn y gronfa a ffurflenni datgan diddordeb e-bostiwch Euro25@llyw.cymru