English icon English
eisteddfod5

Eisteddfod i Bawb

An Eisteddfod for all

Miloedd yn elwa o gynllun i wneud yr Eisteddfod yn hygyrch i bawb

Bydd tua 15,000 o unigolion a theuluoedd Rhondda Cynon Taf yn cael cyfle i fwynhau bwrlwm yr Eisteddfod yr wythnos hon, diolch i gynllun tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd i bobl leol ar incwm is.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, a gaiff ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd, yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr diwylliannol a chenedlaethol Cymru, ac yn dod â chymunedau at ei gilydd i ddathlu cyfoeth y diwylliant Cymraeg. Darparodd Llywodraeth Cymru £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is i brofi'r ŵyl eleni a chael blas ar y Gymraeg a’i diwylliant.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Eluned Morgan: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'r Eisteddfod yn lle gwych i siarad, clywed a defnyddio ein hiaith. Mae sawl un wedi bod yn dod am ddegawdau, eraill yma am y tro cyntaf, ac mae hynny oll yn rhan o beth sy’n gwneud yr Eisteddfod mor arbennig.

“Mae'n braf clywed am gymaint o deuluoedd yn elwa o'r cynllun ac yn mwynhau a chymryd rhan ym mwrlwm yr Eisteddfod."

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Mae’r cynllun yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith ni yn ardal Rhondda Cynon Taf. 

“Mae’r Gymraeg a’r Eisteddfod yn perthyn i bawb ac mae’r gefnogaeth yma gan y Llywodraeth yn sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi blas o’r Eisteddfod i gymaint o drigolion lleol â phosibl. Diolch yn fawr am y gefnogaeth.”

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd wedi gweinyddu'r dyraniad tocynnau i deuluoedd cymwys. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan OBE: “Roedd hi'n bwysig iawn i ni wneud yn siŵr bod cymaint o'n trigolion â phosib yn cael cyfle i ymweld â'r Eisteddfod tra mae yma yn Rhondda Cynon Taf.

“Mae'r Eisteddfod i bawb, a diolch i'r arian hael gan Lywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu rhoi cyfle i bobl nad fyddent efallai wedi cael cyfle i ymweld.

“Rydyn ni’n falch iawn o'r bartneriaeth sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, ac ni allwn aros i groesawu pobl i'r Eisteddfod.”

Dywedodd Craig Spanswick, Pennaeth Ysgol Cwm Rhondda: “Heb os, mae’r cynllun tocynnau am ddim wedi bod yn gymorth chwalu rhwystrau a galluogi mynediad i deuluoedd lleol i’n gŵyl genedlaethol.

“Nid yn unig mae’r cynllun o gymorth i deuluoedd ar incwm is ond mae hefyd wedi galluogi agor drysau i deuluoedd sydd, o bosib, heb fynychu Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen. Mae e mor bwysig i ni, yn ein Heisteddfod Genedlaethol ni yma yn Rhondda Cynon Taf, ein bod ni gallu estyn croeso i gynifer o’n trigolion lleol ag sy’n bosib er mwyn iddynt brofi ein diwylliant unigryw a phrofi’r iaith Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan annatod o’n cymunedau yma’n y cymoedd.”

Nodiadau i olygyddion

Hawlfraint llun: Yr Eisteddfod Genedlaethol