Eluned Morgan yn nodi can diwrnod yn Brif Weinidog
Eluned Morgan marks hundred days as First Minister
Heddiw (dydd Iau 14 Tachwedd 2024), mae Eluned Morgan wedi bod yn myfyrio ar ei 100 diwrnod cyntaf yn Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Pan ddes i’n Brif Weinidog, gwnes addewid i roi llais i’r rhai sy’n rhy aml wedi cael eu gwthio i’r cyrion, i gefnogi rhannau o Gymru sy’n rhy aml wedi teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, ac i bob amser fod yn Brif Weinidog sy’n gwrando.
“Ond yn fwy na hynny - gwnes addo bod yn Brif Weinidog sy’n canolbwyntio ar gyflawni. Ar ôl 100 diwrnod yn y swydd, gallwn ni ddangos sut mae’r Llywodraeth hon yn cyflawni - nid addewidion yn unig, ond gweithredu pendant i’n cymunedau.”
Ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog ar 6 Awst, mae Llywodraeth Cymru, ymysg pethau eraill, wedi cyflawni’r canlynol:
- Gorffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd
- Darparu dyfarniad cyflog uwch na chwyddiant i filoedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus
- Buddsoddi £28m i leihau’r amseroedd aros hiraf mewn ysbytai
- Eithrio meithrinfeydd dydd cofrestredig yn barhaol rhag ardrethi busnes
- Agor yn swyddogol yr ysgol feddygol newydd yn y Gogledd yn barod i dderbyn ei myfyrwyr cyntaf
- Helpu i greu a diogelu swyddi, gan gynnwys mwy na 300 o swyddi ar Lannau Dyfrdwy
Aeth y Prif Weinidog yn ei blaen i ddweud:
“Mae’r rhestr o’r hyn ry’n ni wedi’i gyflawni yn hir – ond bydd y rhestr honno yn cynyddu, wrth inni barhau i gyflawni ar gyfer pobl Cymru. Mae gennym lawer mwy i’w wneud ac mae llawer mwy i ddod.
“Nid yw’r ffordd ymlaen yn hawdd. Ry’n ni’n wynebu heriau enfawr, ond byddwn ni’n eu hwynebu gyda’n gilydd, ar sail Cymru’n un.”