Esemptiad rhag talu'r dreth gyngor yn ‘fudd sylweddol’ i bobl sy’n gadael gofal, gyda rhagor o bobl ar fin cael eu helpu
Council tax exemption a ‘significant benefit’ for care leavers, as more people set to be helped
Mae 830 o bobl sy’n gadael gofal ar fin cael budd o’r esemptiad rhag talu’r dreth gyngor sydd â’r nod o hwyluso’r broses drosglwyddo ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth ym mis Ebrill 2019 i esemptio pobl sy’n gadael gofal rhag talu’r dreth gyngor.
Roedd y ffigurau ar gael am y tro cyntaf yn 2020-21 pan gafodd 493 o bobl a oedd yn gadael gofal fudd o’r esemptiad. Cynyddodd hyn i 646 yn 2021-22, 746 yn 2022-23, ac mae ar fin cyrraedd 830 yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Caiff y ffigurau eu cyhoeddi fel cyfres o adroddiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw’n ystyried effaith y mesurau a gymerwyd i liniaru’r pwysau ar bobl agored i niwed mewn perthynas â’r dreth gyngor.
Canfu’r adroddiadau fod y bobl sy’n gadael gofal a sefydliadau trydydd parti sy’n cynrychioli’r bobl hynny yn cytuno bod yr esemptiad wedi bod o ‘fudd sylweddol’ i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Canfu hefyd fod y ffordd y cafodd yr esemptiad ei gymhwyso’n unffurf ar draws cynghorau wedi cael ei chroesawu.
Yn ogystal â’r esemptiad i bobl sy’n gadael gofal, mae’r adroddiadau yn ystyried safoni’r esemptiad ar gyfer pobl ag amhariad meddyliol difrifol, cael gwared ar y gosb o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor, a gweithredu Protocol y Dreth Gyngor sy’n amlinellu polisi y cytunwyd arno i reoli'r broses o gasglu'r dreth gyngor ac ôl-ddyledion.
Mae’r ymchwil yn nodi argymhellion i wella effeithiolrwydd y mesurau, a bydd ei chanfyddiadau yn llywio’r gwaith o lunio polisïau yn y dyfodol.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Gall y broses o drosglwyddo i fyw’n annibynnol fod yn gyfnod heriol ym mywydau pobl sy’n gadael gofal. Mae esemptio pobl sy’n gadael gofal rhag talu’r dreth gyngor yn un o amrywiaeth o ffyrdd rydym yn gweithio arno i gefnogi pobl sy’n gadael gofal wrth iddynt ddechrau bywyd fel oedolyn. Mae’n braf clywed pa mor ddefnyddiol y mae wedi bod iddynt.
“Mae’r ymchwil hefyd yn dweud wrthym fod lle i wella ymhellach, er enghraifft drwy sicrhau bod y wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn hygyrch iawn. Byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi gymaint â phosibl.
“Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud y dreth gyngor yn decach. Byddwn yn gweithio tuag at wella’r fframwaith o ostyngiadau ac esemptiadau, yn ogystal â’n Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, fel rhan o’n rhaglen waith ehangach i wneud y dreth gyngor yn decach.”