English icon English
EM - MHSS-2

Fersiwn ddigidol Pàs COVID y GIG ar gael yng Nghymru ar gyfer teithiau brys

Digital NHS COVID Pass available in Wales for urgent travel

Bydd pobl sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn COVID yn gallu gweld eu statws brechu ar y rhyngrwyd o heddiw ymlaen [25ain Mehefin] i gynhyrchu Pàs COVID y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol allanol ar frys.

Mae tystysgrifau brechu wedi bod ar gael yng Nghymru ers mis Mai ar gyfer y bobl sydd angen teithio’n rhyngwladol ar frys, a darparu tystiolaeth o’u statws brechu. Caiff y tystysgrifau eu hanfon yn y post. Bydd tystysgrifau papur yn parhau i gael eu rhoi i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r Pàs digidol. Mae mynediad at Bàs COVID y GIG yng Nghymru’n golygu y bydd tystiolaeth o’r brechlyn ar gael i bobl ei dangos ar eu ffôn, llechen neu liniadur.

Gallwch gael statws brechu COVID os ydych:

  • wedi cael y brechlyn COVID 
  • wedi cael eich brechu yng Nghymru
  • yn 16 oed neu’n hŷn

Bydd y pàs digidol yn dangos a ydych wedi cael y brechlyn COVID, er y bydd angen ichi wirio’r gofynion mynediad ar gyfer y wlad yr ydych yn bwriadu teithio iddi, fel nifer y brechiadau, profi ac ynysu, a bydd angen ichi ddilyn y rheolau teithio fel cael prawf cyn teithio.

Gallwch weld eich statws brechu COVID ar-lein ar wefan Pàs COVID y GIG, lle gallwch ei lawr lwytho neu ei argraffu fel dogfen PDF. Dyma’r unig statws brechu digidol dilys sydd ar gael; nid yw unrhyw wasanaethau eraill sy’n honni eu bod yn cynnig tystiolaeth o statws brechu am ffi yn ddilys.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Rwy’n falch y gall pobl yng Nghymru gael eu statws brechu nawr drwy Bàs COVID y GIG os oes angen iddynt deithio ar frys a’u bod wedi cael dos llawn o’r brechlyn.

“Mae’n bwysig cofio nad yw cyngor Llywodraeth Cymru ar deithio wedi newid, ac mai dim ond os yw’n hollol hanfodol y dylai pobl ystyried teithio’n rhyngwladol.”

Gall pobl yng Nghymru nawr gael mynediad at eu statws brechu ar eu ffôn, llechen neu liniadur gan ddefnyddio Pàs COVID digidol y GIG. Mae gwaith ar y gweill i gyfuno systemau Ap GIG Lloegr a GIG Cymru i alluogi i bobl yng Nghymru ei ddefnyddio.

Gall pobl wneud cais am Bàs COVID y GIG dwyieithog ar ffurf llythyr drwy ffonio 0300 303 5667.

Nodiadau i olygyddion

  • Information about the NHS COVID Pass can be accessed here
  • Entry requirements for international travel can be checked here
  • Foreign travel advice for those leaving and entering Wales can be found here
  • You need to check the entry requirements of the country you intend to visit using the Foreign, Commonwealth & Development Office travel advice website - see https://www.gov.uk/foreign-travel-advice.  In most cases, it is necessary to have evidence of a negative PCR test with or without a completed vaccination course.   
  • NHS COVID Pass will initially be available in English only whilst development of the bilingual service takes place. The Welsh Vaccination Certificate Service (WVCS) who issue paper certificates will continue to offer a bilingual service.  Paper vaccination certificates, for people who are unable to access the digital solution, for essential international travel can be requested through WVCS by calling 0300 303 5667.  Certificates are issued by post and can take up to 10 working days.
  • Through the Welsh Government’s Addo responsible tourism campaign we’re reminding the people of Wales and visitors from across the UK to respect each other, our communities and our land in anticipation of a busy summer ahead. visitwales.com/promise