[Fersiwn Gogledd Cymru] Ehangu mynediad i ddiwylliant Cymru: £550,000 i gefnogi prosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd
[North Wales version] Widening access to Wales’ culture: £550,000 to support museums, archives and libraries projects
Bydd dau ar bymtheg o brosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol - gan helpu i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at ddiwylliant - gyda dros £550,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad.
Caiff y cyllid ei ddyfarnu drwy Raglen Grant Cymorth Lleol Estynedig Llywodraeth Cymru i'r Sector Diwylliant ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd. Bydd yn caniatáu i brosiectau barhau â'u gweithgareddau tan ddiwedd mis Mawrth 2027, gan adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd.
Bydd Gogledd Cymru yn elwa'n sylweddol o'r cyllid ychwanegol hwn, gyda 6 prosiect ar draws y rhanbarth yn adeiladu ar lwyddiannau presennol ym maes diwylliant, treftadaeth ac archifau.
- Yn Wrecsam, bydd prosiect y Swyddog Casgliadau Partneriaeth yn sefydlu partneriaeth newydd rhwng Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
- Ar Ynys Môn, bydd prosiect Trysor yn cyflwyno archaeoleg a chynhanes i gynulleidfaoedd newydd trwy well dehongli ac allgymorth dwyieithog.
- Bydd Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn datblygu rhaglen i bontio ysgolion uwchradd fel rhan o'r Prosiect Archifau Creadigol,
- Bydd Sir y Fflint hefyd yn datblygu Clwb Archaeoleg i Oedolion gyda'r Ymddiriedolaeth Gwella.
- Bydd Rhaglen Allgymorth Ysgolion Sir Ddinbych yn ehangu y tu hwnt i'r Rhyl a Phrestatyn i gyrraedd mwy o blant a theuluoedd ar draws y sir.
- Yng Ngwynedd, bydd buddsoddiad ychwanegol yn cefnogi Storiel a Diwylliant Gwynedd, ochr yn ochr â Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell a datblygiad parhaus LMS Cymru.
Dywedodd Heledd Fychan, y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon:
"Mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ganolog i'n cymunedau, gan gysylltu pobl â'u hanes, â'u diwylliant ac â'i gilydd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brosiectau ym mhob cwr o Gymru adeiladu ar y cynnydd gwych y maen nhw wedi'i wneud yn barod, gan gyrraedd mwy o bobl, mewn mwy o leoedd, gyda'r straeon sy'n bwysig iddyn nhw.
"Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r prosiectau hyn. Mae eu hymrwymiad parhaus at ennyn diddordeb cymunedau, diogelu ein treftadaeth ac ehangu mynediad at ddiwylliant yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu eu cefnogi nhw i estyn y gwaith hanfodol hwn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Annabelle Dennis, Rheolwr Prosiect yn Hanes-Hi ym Merthyr Tudful:
"Dim ond y dechrau yw Hanes-Hi. Trwy gyfuno gwefan Hanes-Hi â'n gosodiad ymgolli yn yr amgueddfa, sy'n dod â phortreadau a straeon menywod yn fyw, rydyn ni wedi creu platfform sy'n ysbrydoli ymgysylltu ac yn gwarchod hanes. Tra bo ymwelwyr yn gallu uniaethu â'r menywod rhyfeddol hyn drwy'r profiad ymgolli, mae'r wefan yn gweithio fel archif ddigidol barhaol a all barhau i dyfu wrth i straeon newydd gael eu datgelu a'u rhannu.
"Gyda'i gilydd, maen nhw'n sicrhau bod lleisiau menywod o Ferthyr Tudful nid yn unig yn cael eu clywed heddiw, ond yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi'u hanwybyddu gan hanes yn cael eu cydnabod a'u cofio am byth."