Fferm ym Mro Morgannwg yn anelu at ddiogelu’r amgylchedd a chreu budd i’r busnes
Protecting environment and benefitting business key for Vale of Glamorgan farm
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi ymweld â fferm ym Mro Morgannwg sy'n cymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ac er budd eu busnes.
Cyfarfu'r Gweinidog â Richard a Lyn Anthony yn Fferm Sealands yn Saint-y-brid i glywed am y gwaith y maent yn ei wneud sy'n cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru o ran Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Mae Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn sefydlu fframwaith polisi a deddfwriaethol sydd wedi'i gynllunio i fod yn fuddiol i ffermwyr a'r amgylchedd ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.
Mae Richard a Lyn Anthony yn gwneud hyn ar Fferm Sealands mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynyddu'r deunydd organig yn eu priddoedd âr. Mae hyn yn tynnu carbon i lawr o'r atmosffer, ac mae hefyd yn golygu bod y pridd yn gallu dal gafael ar leithder mewn tywydd sych yn well.
Maent hefyd wedi sefydlu cnydio cydymaith gyda'u cnydau âr sy'n lleihau risgiau o blâu, sydd o fudd i bryfed peillio, ac yn lleihau'r defnydd o gemegau.
Mae treialon cnydau helaeth yn digwydd ar y fferm i brofi mathau newydd o gnydau sy'n addas i'w tyfu yn hinsawdd Cymru, ac mae ffynonellau ynni adnewyddadwy wedi cael eu gosod.
Mae'r camau hyn yn ymgorffori'r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn y Bil Amaethyddiaeth cyntaf erioed a wnaed yng Nghymru. Maent yn arddangos yn glir addasu i newid yn yr hinsawdd a chynnal a gwella ecosystemau wrth gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.
Daw'r ymweliad ar ôl i Aelodau'r Senedd basio'r Bil Amaethyddiaeth yr wythnos diwethaf. Wrth wraidd y Bil mae amcanion i gefnogi cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sector amaethyddol Cymru. Mae Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn allweddol i hyn.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae wedi bod yn wych cwrdd â Richard a Lyn a dysgu mwy am y gwaith trawiadol y maent yn ei wneud yn Sealands sy'n cyd-fynd â'n hamcanion i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a chefnogi cynaliadwyedd busnes y fferm.
“Maen nhw wedi rhoi nifer o fesurau ar waith ac rydw i wedi bod yn falch o glywed sut mae'r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar eu busnes a'u tir.
“Rheoli Tir yn Gynaliadwy yw sylfaen polisi amaeth y dyfodol yng Nghymru, a bydd yn helpu i sicrhau y gall ein ffermwyr barhau i gynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel a nwyddau amaethyddol am flynyddoedd i ddod ochr yn ochr â chymryd camau i ddiogelu'r amgylchedd.”
Dywedodd Richard Anthony: “Rwy'n credu bod amaethyddiaeth gynhyrchiol fodern yn rhan fawr o'r ateb i newid yn yr hinsawdd, ac rydym yn dal i ddysgu sut i feithrin gwytnwch ar ein fferm, sydd hyd yn oed yn bwysicach mewn tymhorau sych fel rydyn ni'n ei brofi ar hyn o bryd.
“Rydyn ni'n hoffi dangos beth sy'n ymarferol ar lawr gwlad, ac rwy'n credu ei bod yn werthfawr i ffermwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd a gweld pa syniadau allai weithio ar eu fferm eu hunain.”