Ffilmiau Cymraeg newydd ar y gweill gyda chefnogaeth Sinema Cymru
New Welsh language films in the pipeline supported by Sinema Cymru
Bydd pedair ffilm nodwedd Gymraeg newydd yn cael eu cefnogi i'w datblygu fel rhan o Gronfa Sinema Cymru Greadigol.
Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol a bydd yn cael ei gyflwyno gan Ffilm Cymru. Nod Sinema Cymru yw datblygu ffilmiau Cymraeg drwy roi hwb i ffilmiau Cymraeg annibynnol sy'n feiddgar, yn anghonfensiynol, ac sydd â'r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol.
Y pedwar teitl a ddewiswyd ar gyfer Cyllid Datblygu yn y rownd gyntaf hon yw: -
- Gorllewin Gwyllt: drama gomedi am alltud rhyfedd sy'n defnyddio ei gwybodaeth obsesiynol am ffilmiau cowbois i ddatrys diflaniad ei ffrind gorau o'u tref wledig yng Nghymru.
Carys Lewis (Awdur, Cyfarwyddwr), Bethan Leyshon (Awdur)
- Pijin: Addasiad o nofel dod i oed Alys Conran am gyfeillgarwch plentyndod rhwng Pijin a Iola sy'n dianc rhag realiti trwy fyw bywyd o ddychymyg ac adrodd straeon - byd sydd yn y pen draw yn mynd allan o reolaeth gyda chanlyniadau trychinebus.
Triongl (Cwmni cynhyrchu) Angharad Elen (Awdur), Euros Lyn (Cyfarwyddwr), Gethin Scourfield &Nora Ostler Spiteri (Cynhyrchwyr)
- Lluest: Archwiliad gwaedlyd o frad a dial gan fenywod wedi'i osod yn yr eira ar fynyddoedd gogledd Cymru yn y ddeunawfed ganrif.
Severn Screen Ltd (Cwmni cynhyrchu) Ed Talfan (Awdur), Gareth Bryn (Cyfarwyddwr), Hannah Thomas (Cynhyrchydd), Gareth Evans (cynhyrchydd Gweithredol), Caryl Lewis (Cynhyrchydd Gweithredol)
- Estron: Mae cymuned yn ymladd i oroesi wrth i luoedd arallfydol ymddangos.
Joio Cyf (cwmni cynhyrchu), Lee Haven Jones (Cyfarwyddwr), Roger Williams (Awdur)
Mae'r cylch hwn o Gyllid Datblygu yn buddsoddi £140k i ddatblygu'r syniadau cychwynnol, gyda'r nod bod o leiaf un o'r ffilmiau yn symud ymlaen i gyllid cynhyrchu. Bydd ffilmiau yn y dyfodol yn anelu at gael eu dangos mewn gwyliau cyn eu rhyddhau yn y sinema.
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys pecyn o hyfforddiant pwrpasol a datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi awduron, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr ffilmiau nodwedd yng Nghymru, gan olygu bod y buddsoddiad o dan y cylch hwn o Gyllid Datblygu yn gyfanswm o £280,000.
Lansiwyd y cynllun drwy gynnal Labordy preswyl ar gyfer Awduron. Fe’i trefnwyd gan Ffilm Cymru mewn partneriaeth â Le Groupe Ouest o Lydaw. Le Groupe Ouest sy'n rhedeg y rhaglen sgriptio Ewropeaidd adnabyddus Less Is More (LIM) ac mae ganddynt hanes o ddatblygu ffilmiau nodwedd sydd â chyrhaeddiad rhyngwladol mewn ieithoedd heblaw’r Saesneg. Bu’r mentoriaid sgriptio Nolwenn Guiziou a Yacine Badday yn gweithio gyda rhai o wneuthurwyr ffilm Sinema Cymru a oedd yn uchel ar y rhestr fer i ddatblygu eu prosiectau nodwedd yn ystod y labordy wythnos o hyd.
Dywedodd Hannah Blythyn, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru:
“Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddarparu mwy o ffilmiau Cymraeg annibynnol, mewn cyfnod pan fo'r sector dan bwysau cynyddol. Mae hynny’n bwysicach nag erioed.”
“Gwnaethom lansio cronfa Sinema Cymru er mwyn helpu i ysbrydoli creadigrwydd yn y byd ffilmiau Cymraeg, ac er mwyn gwneud hynny mewn ffordd sy’n hyrwyddo lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn helpu i hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg i'r byd. Dw i mor falch bod y pedwar teitl cyffrous hyn wedi llwyddo i gael cyllid a fydd yn eu helpu i fwrw ’mlaen â’u syniadau"
Mae Cronfa Sinema Cymru yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell:
"Mae cronfa Sinema Cymru yn gyfle inni hyrwyddo ffilmiau Cymraeg a chefnogi'r dalent y tu ôl i'r camera ac ar y sgrin. Drwy iaith fyd-eang ffilm gallwn ddod â'n hiaith i gynulleidfa fyd-eang, a datblygu a chefnogi’n sector ffilm."
“Mae hwn yn gyfle gwych inni hyrwyddo a dathlu ffilmiau Cymraeg. Bydd Sinema Cymru yn cefnogi ffilmiau Cymraeg annibynnol, yn datblygu syniadau a thalent, ac yn cryfhau'r sector ffilmiau Cymraeg.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r prosiectau hyn yn datblygu."
Dywedodd Pennaeth Sgriptio S4C, Gwenllian Gravelle:
"Mae sinema yn brofiad emosiynol a difyr, sydd yn mynd y tu hwnt i rwystrau ieithyddol a daearyddol.
"Yn S4C, ein nod yw datblygu a chryfhau'r diwydiant yng Nghymru drwy greu ffilm Gymraeg bob blwyddyn; adeiladu catalog cadarn o ffilmiau i'w mwynhau heddiw a chan genedlaethau'r dyfodol.
"Ein nod yw rhoi profiad sinematig o straeon Cymreig i'r gynulleidfa, wedi eu creu gan leisiau unigryw a chreadigol ein gwlad. Straeon pwerus sydd â theimlad lleol ond sydd ag apêl fyd-eang hefyd."
Dywedodd Gwenfair Hawkins, Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynyrchiadau Cymraeg gyda Ffilm Cymru:
"Mae Ffilm Cymru Wales yn hynod falch o gael gweithio ar gronfa Sinema Cymru gyda S4C a Cymru Greadigol.
“Er bod holl gronfeydd Ffilm Cymru Wales yn parhau i fod ar gael i'r rheini sydd am weithio yn y Gymraeg, rydyn ni’n llawn cyffro am y cyfle hwn – y cyntaf o'i fath – i arddangos a dathlu straeon a lleisiau Cymraeg. Mae ffilmiau annibynnol fel Gwledd, y Llyfrgell a'r Ymadawiad (a gyd-ariannwyd gan Ffilm Cymru a S4C) yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin a hyrwyddo gwneuthurwyr ffilm newydd a hefyd y gwneuthurwyr hynny sydd wedi hen ennill eu plwyf. Mae dirywiad cyffredinol i’w weld ym myd cynhyrchu ffilmiau yn y DU ac felly, mae’n bwysicach nag erioed bod darlledwyr cyhoeddus a'r Llywodraeth yn parhau i fuddsoddi mewn cynyrchiadau Cymraeg ar gyfer y sinema."