Ffliw adar: datgan parth atal ledled Prydain
Avian influenza: prevention zone declared across Great Britain
Ar ôl nifer o achosion o ffliw’r adar mewn adar gwyllt ledled Prydain Fawr, mae Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a’r Alban wedi datgan bod Prydain Fawr yn gyfan bellach yn Barth Atal Ffliw’r Adar er mwyn lleihau’r risg i’r clefyd heintio dofednod ac adar caeth.
Mae hynny’n golygu o 5pm ddydd Mercher 3 Tachwedd 2021, bydd yn ofyn cyfreithiol ar bawb ym Mhrydain Fawr sy’n cadw adar i gadw at fesurau bioddiogelwch llym i ddiogelu’u hadar. Bydd angen i bobl sy’n cadw mwy na 500 o adar gyfyngu ar hawl pobl nad ydyn nhw’n hanfodol i fynd i’w safleoedd, bydd angen i weithwyr newid eu dillad a’u sgidiau cyn mynd i fannau cadw adar a bydd angen glanhau a diheintio cerbydau’r safle’n rheolaidd i osgoi’r risg o ledaenu’r clefyd.
Mae ffliw’r adar yn lledaenu’n naturiol mewn adar gwyllt a phan fyddan nhw’n mudo i Brydain o dir mawr Ewrop dros y gaeaf, maen nhw’n gallu trosglwyddo’r clefyd i ddofednod ac adar caeth eraill.
Rhaid i bobl sy’n cadw ychydig o ddofednod fel ieir, hwyaid a gwyddau yn eu gerddi hefyd gymryd camau i ddiogelu’u hadar rhag cael eu heintio.
Mae Asiantaethau Iechyd y DU yn dweud bod risg y feirws i iechyd y cyhoedd yn fach iawn ac mae’r Asiantaethau Bwyd yn dweud mai ychydig iawn o risg sydd i ddiogelwch bwyd y DU yn sgil ffliw’r adar. Mae cig a chynhyrchion dofednod, gan gynnwys wyau, sydd wedi’u coginio’n iawn yn ddiogel i’w bwyta.
Penderfynwyd creu parth AIPZ ar ôl cael hyd i’r clefyd mewn adar caeth ar safleoedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r clefyd wedi’i weld hefyd mewn adar gwyllt ar nifer o safleoedd ledled Prydain.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a’r Alban:
“Ar ôl nifer o achosion o ffliw’r adar mewn adar gwyllt ledled Prydain Fawr, rydym wedi datgan bod Prydain Fawr yn gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb sy’n cadw adar weithredu nawr i atal y clefyd rhag heintio’u dofednod ac adar domestig eraill.
“Waeth p’un a oes gennych ddyrnaid neu filoedd o adar, mae gofyn cyfreithiol arnoch nawr i gyflwyno safonau bioddiogelwch llymach ar eich fferm neu’ch tyddyn. Gwnewch hyn er eich lles eich hunain a gwarchod eich adar rhag y clefyd heintus iawn hwn.
“Mae'r Asiantaethau Iechyd wedi cadarnhau bod y risg i iechyd y cyhoedd yn fach iawn ac yn ôl yr Asiantaethau Safonau Bwyd, nid yw ffliw’r adar yn peryglu diogelwch bwyd yn y DU.”
Mae’r parth AIPZ wedi’i gyhoeddi yn dilyn y penderfyniad i godi lefel y risg y gallai adar gwyllt ddod â ffliw’r adar i Brydain o ‘ganolig’ i ‘uchel’. Ar gyfer dofednod ac adar caeth, mae lefel y risg wedi’i chodi o ‘isel’ i ‘ganolig’ ar safleoedd lle mae’r mesurau bioddiogelwch yn is na’r gofyn, ond bydd yn parhau’n ‘isel’ lle mae’r safonau bioddiogelwch yn parhau’n llym.
Nid yw'r AIPZ sydd bellach mewn grym ar draws Prydain Fawr yn gofyn ichi gadw’ch adar dan do. Ond byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa. Gyda'r risg o ffliw’r adar yn cynyddu yn y gaeaf, efallai y daw angen i gadw adar yn yr AIPZ dan do. Bydd unrhyw fesurau pellach i reoli’r clefyd yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol a’r cyngor milfeddygol ddiweddaraf.
Mae’r parth atal ffliw’r adar (AIPZ) yn golygu bod yn rhaid i bawb ledled y wlad sy’n cadw adar:
• Gadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill.
• Gofalu nad yw’r mannau lle rydych yn cadw adar yn denu adar gwyllt, e.e. rhowch netin ar byllau dŵr a chael gwared ar ffynonellau bwyd i adar gwyllt;
• Bwydo a rhoi dwr i adar mewn lle caeedig rhag denu adar gwyllt;
• Sicrhau bod cyn lleied â phosib o fynd a dod i’r mannau cadw adar;
• Glanhau a diheintio sgidiau a chadw mannau cadw’r adar yn lân ac yn dwt;
• Lleihau’r risg o heintio trwy olchi a diheintio arwynebau concrit a chodi ffens o amgylch mannau gwlyb neu gorsiog.
• Cadw adar maes o fewn mannau wedi’u ffensio a chodi ffens o amgylch pyllau dŵr, cyrsiau dŵr a dŵr llonydd parhaol (ac eithrio o dan rai amgylchiadau e.e. adar mewn sw)
Bydd y parth atal yn parhau mewn grym tan y cyhoeddir yn wahanol a bydd y Llywodraeth yn cadw golwg ar y sefyllfa fel rhan o’i gwaith monitro a rheoli risgiau ffliw’r adar.
Os gwelwch adar gwyllt marw, dylai ceidwaid dofednod ac aelodau’r cyhoeddi gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 ac os ydych chi’n credu bod y clefyd ar eich adar, ffoniwch APHA ar 0300 303 8268. Dylai ceidwaid fod yn gyfarwydd â’r cyngor ar ffliw’r adar.