English icon English

Ffliw Adar wedi'i ganfod ar safle yng Ngwynedd

Avian Influenza identified at a premises in Gwynedd

Mae Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins, wedi cadarnhau presenoldeb Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 ar safle ger Arthog yng Ngwynedd.

Mae Parth Gwarchod 3 cilomedr a Pharth Goruchwylio 10 cilomedr wedi'u datgan o amgylch yr safle heintiedig, i gyfyngu ar y risg o ledaeniad clefydau.  

O fewn y parthau hyn, cyfyngir symudiadau a chynulliadau adar ac mae’n rhaid datgan pob daliad sy'n cadw adar.  Mae'r mesurau'n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Gwybodaeth lawn ar gael yma. 

Dywed asiantaethau iechyd y DU fod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws yn isel iawn ac yn ôl asiantaethau safonau bwyd y DU. Mae asiantaethau safonau bwyd y DU yn dweud bod ffliw'r adar yn risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU.  

Meddai Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Gavin Watkins: "Mae'r chweched achos hwn o ffliw adar yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf yn destun pryder a thystiolaeth o'r risg parhaus sydd allan yna i'n hadar.   

"Bu ymlediad digynsail o ffliw adar i Brydain Fawr ac Ewrop yn 2022 ac mae'n rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddynt y lefelau uchaf un o fioddiogelwch. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar.     

"Wrth i ni symud i'r Hydref a'r Gaeaf, rwy'n eich annog i gyd i adolygu'r mesurau sydd gennych ar waith a nodi meysydd i wella.  Meddyliwch am risgiau o gysylltu'n uniongyrchol ag adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, a hefyd y pethau y gellid eu halogi gan faw adar – dillad ac esgidiau, offer, cerbydau, bwyd anifeiliaid a dillad gwely.  Gwnewch welliannau lle gallwch chi atal lledaeniad pellach o'r clefyd dinistriol hwn.  

"Mae bioddiogelwch da bob amser yn allweddol wrth ddiogelu anifeiliaid rhag clefydau." 

Dylai pobl roi gwybod i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 am adar marw ac amheuaeth o ffliw adar. 

Gellir casglu'r rhain ar gyfer archwilio a chadw gwyliadwriaeth o ffliw adar, yn dibynnu ar y rhywogaethau a'r lleoliad. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am adar marw a’u gwaredu ar Rhoi gwybod am adar marw a’u gwaredu | LLYW.CYMRU  

Mae'n bwysig peidio â chodi na chyffwrdd unrhyw aderyn sâl neu farw.   

Mae map rhyngweithiol o barthau rheoli clefydau ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws Prydain i'w weld yma.